FC CYMRU – RHIFYN AMERICA

SYNAU’R SAMBA YN ATSEINIO TRWY RAEADR

Roedd cyfeiriad enwog ato gan un swyddog clwb fel “the only Brazilian who couldn’t play football,” ond ni adawodd Jose Ricardo Rodrigues Ferreira (neu Junior fel yr oedd yn cael ei alw) i hynny roi stop arno yn hawlio’r penawdau ar draws y wlad yn ôl ym mis Hydref 1998 pan ffarweliodd â thrydedd adran Brasil ac ymuno â thîm Rhaeadr, tîm a oedd yn cael trafferthion ar waelod Cynghrair Cymru fel y’i gelwid ar y pryd. A allai’r chwaraewr cyfandirol newid ffawd y tîm o ganolbarth Cymru er gwell? Go brin.

Llwyddodd dyfodiad Junior i gyffiniau tra chyffredin cae chwarae’r Weirglodd i ddenu sylw cenedlaethol, a hyd yn oed ambell i bennawd yn ôl ym Mrasil. Fe wnaeth un e-bost myfyriol i’r clwb arwain at daith ryfeddol dros yr Atlantig. Yn anffodus, fe wnaeth y tywydd a’r oedi yn ei gliriad rhyngwladol gyfyngu ar ei gyfleoedd yn ystod ei arhosiad, a cholli 5-0 a wnaethant yn ei gêm gyntaf ym mis Tachwedd pan ddaeth oddi ar y fainc yn erbyn Inter CableTel. Er iddo sgorio hatrig i’r ail dîm mewn gêm gwpan yn erbyn Llandrindod, nid oedd wedi llwyddo i gyrraedd yr uchelfannau yr oedd efallai wedi gobeithio amdanynt.

“Mae’n bwrw glaw dipyn ac yn fwdlyd iawn yma yng Nghymru ond mae’r bobl wedi bod yn gyfeillgar iawn i mi,” eglurodd Junior i’r Brecon & Radnor Express. “Rydw i wedi cael pryd o gig eidion rhost, a oedd yn neis iawn, ond dydw i ddim yn hoffi Brussel sprouts.” Wrth gwrs, roedd hyn i gyd yn newydd iawn o ran gwerthfawrogi’r problemau ynghlwm â chroesawu chwaraewyr o glybiau o wledydd eraill, gan gynnwys i ba raddau y gellir dibynnu ar eu cymwysterau, ond daeth rhagor o chwaraewyr i ddilyn dros y misoedd nesaf wrth i’r Rhyl ddilyn esiampl Rhaeadr ym mis Ionawr 1999 a denu gŵr arall o Frasil, Rodrigo Maltarollo, i’w plith o CFZ do Rio.

"Mae’n hoff iawn o’r rhyngrwyd,” eglurodd trysorydd y Rhyl, David Hughes, i newyddion y BBC ar y pryd. “Roedd ganddo gyfrif yn Rio ac mae angen i ni sicrhau cyfrifiadur iddo fan hyn nawr. Ond mae’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd. Fe ddywedodd ei bod yn 37 gradd yn Rio pan adawodd ac mae hi fwy fel 0 gradd fan hyn. Mae’n ymddangos fel rhyw fath o duedd o chwaraewyr rhyngwladol eisiau dod draw yma – fe gawson ni ffacs gan ddau chwaraewr o’r Iseldiroedd wythnos ddiwethaf a oedd â diddordeb yn gwneud yr un peth.”

Ni lwyddodd y naill ŵr o Frasil na’r llall i wneud argraff go iawn ar y cae yn ystod eu cyfnodau byr yng Nghymru, ond llwyddodd y ddau i godi proffil y gêm ddomestig gyda’r sylw cenedlaethol a ddaeth yn eu sgil. Mae stori Junior o São Paulo wedi aros yn y cof fwy na stori ei gydwladwr. “Roedd e’n beth mawr, rhywun o Frasil yn dod i ganolbarth Cymru i chwarae pêl-droed,” meddai Emrys Morgan, Is-gadeirydd y clwb a estynnodd groeso i’r chwaraewr o Frasil i’w gartref teuluol. “Roedd e’n gyhoeddusrwydd da i’r clwb ac yn rhywbeth gwahanol i’r arfer, yn arbennig i Raeadr o bob man.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×