GOLWG AR Y GWRTHWYNEBWYR

OES AUR Y WERINIAETH TSIEC

Dim ond unwaith mae’r Weriniaeth Tsiec wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers dod yn wladwriaeth annibynnol ym 1993, a methodd y tîm a mynd heibio’r gemau grŵp yn rowndiau terfynol 2006. Er hynny, dathlodd y genedl ei llwyddiant pêl-droed mwyaf erioed wrth gyrraedd rownd derfynol EWRO 1996.

O dan arweiniad y rheolwr Dušan Uhrin, teithiodd carfan dalentog gyda chwaraewyr fel Pavel Nedvěd, Patrick Berger, Vladimír Šmicer a Karel Poborský yn ei phlith i Loegr i wneud eu marc ar y llwyfan rhyngwladol fel gwlad annibynnol. Ond doedd dim awgrym o’r hyn a oedd ar droed yn eu gêm gyntaf.

Roedd herio’r Almaen yn Old Trafford wastad yn mynd i fod yn orchest anodd, a daeth goliau gan Christian Ziege ac Andreas Möller yn yr hanner cyntaf i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus  i’r Almaen. Ond yna, daeth taith fer llawer mwy cynhyrchiol i Anfield ar gyfer eu hail gêm yn erbyn yr Eidal, a daeth goliau gan Nedvěd a Radek Bejbl i roi buddugoliaeth 2-1 i dîm Uhrin.

Daeth un o gemau mwyaf diddorol y twrnamaint i ddirwyn y gemau grŵp i ben wrth i’r Weriniaeth Tsiec chwarae mewn gêm gyfartal 3-3 yn erbyn Rwsia yn Anfield, gyda gôl hwyr gan Šmicer yn unioni’r sgôr a sicrhau lle yn y camau nesaf i’r tîm, a hynny ar draul yr Eidal. Ar ôl i goliau gan Jan Suchopárek a Pavel Kuka roi’r tîm 2-0 ar y blaen, tarodd Rwsia yn ôl gan fynd ar y blaen 3-2 ar ôl 85 munud. Ond roedd digon o amser yn weddill i Šmicer sgorio’r gôl dyngedfennol, a byddai’n dychwelyd i Anfield dair blynedd yn ddiweddarach pan ymunodd â Lerpwl.

Nesaf, gêm yn erbyn Portiwgal yn rownd yr wyth olaf, a pharhau a wnaeth y freuddwyd wrth i Poborský sgorio unig gôl y gêm yn Villa Park i dorri calonnau Luís Figo a’i gyd-chwaraewyr enwog. Byddai’r Weriniaeth Tsiec yn dychwelyd i Old Trafford ar gyfer y rownd gynderfynol yn erbyn Ffrainc, ac ar ôl i’r gêm ddod i ben yn gyfartal ac yn ddi-sgôr, fe enillon nhw 6-5 ar giciau o’r smotyn.

Mewn tro eironig yn y stori, daeth ymgyrch y Weriniaeth Tsiec i ben yn union fel y dechreuodd, wrth golli i’r Almaen. Er i gic o’r smotyn gan Patrick Berger eu rhoi ar y blaen yn yr ail hanner yn Stadiwm Wembley, unionodd Oliver Bierhoff y sgôr i fynd â’r gêm i amser ychwanegol, a sicrhaodd yr ergydiwr ei le mewn hanes gyda’r ‘golden goal’ a ddaeth â’r gêm i ben yn syth bin, a rhoi’r fuddugoliaeth i’r Almaen.

 

Er i’r ymgyrch ddod i ben mewn siom, roedd y Weriniaeth Tsiec wedi gwneud argraff yn groes i ddisgwyliadau, a bron iddynt wneud yn iawn am hynny yn Ewro 2004 wrth iddynt gyrraedd y rowndiau cynderfynol unwaith eto. Ond tîm annhebygol arall a wnaeth argraff y tro hwn, a cholli 1-0 a wnaeth y Weriniaeth i enillwyr y gystadleuaeth yn y pen draw, Gwlad Groeg.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×