JIMMY MURPHy

 Y DYN A AETH A CHYMRU I GWPAN Y BYD

I fod yn rheolwr, mae angen cymeriad cryf a’r gallu i herio trallod.

Un felly oedd Jimmy Murphy, a mawr fydd y parch iddo am byth yn hanes Manchester United a Chymru am yr hyn a gyflawnodd dan yr amgylchiadau torcalonnus y bu iddo eu hosgoi trwy gyfres o ddigwyddiadau anghredadwy.

Ac yntau’n chwaraewr proffesiynol gyda West Bromwich Albion, chwaraeodd Murphy yn rownd derfynol Cwpan yr FA 1935, ond cafodd ei dîm ei drechu gan Sheffield Wednesday. Cafodd ei eni yn y Rhondda yn 1910, a daeth yr Ail Ryfel Byd a’i yrfa chwarae i ben yn gynt na’r disgwyl ychydig ar ôl iddo symud i Swindon Town. Ond llwyddodd i ymddangos mewn 15 o gemau i Gymru cyn hynny.

Roedd yn gynorthwyydd ffyddlon i Syr Matt Busby ym Manchester United, a chwaraeodd rôl bwysig yn meithrin ac yn datblygu’r grŵp talentog o chwaraewyr y cyfeiriwyd atynt fel y 'Busby Babes'. Law yn llaw a’i safle yn Old Trafford, daeth Murphy yn rheolwr ar Gymru ym 1956, a thrwy’r gyfres syfrdanol o ddigwyddiadau wrth gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 1958 y methodd y daith awyren dyngedfennol honno a arweiniodd at drychineb awyr Munich.

I ddeall yn llawn sut y bu i Murphy arwain Cymru allan yn erbyn Israel, rydym ni wedi ysgrifennu pennod arbennig am hyn yn y rhifyn hwn o FC Cymru. O’r Argyfwng Sŵes (Suez Crisis) i FIFA yn gwrthod gadael i Indonesia chwarae mewn man niwtral, mae’r rhestr o ddigwyddiadau gwleidyddol a chwaraeon a arweiniodd at Gymru yn chwarae yn y gêm honno yn eithaf anhygoel.

Tra bo Busby wrth y llyw gyda Manchester United yn erbyn Red Star Belgrade yng Nghwpan Ewrop, roedd Cymru yn chwarae Israel yng Nghaerdydd i ennill lle yng Nghwpan y Byd 1958. Ond wrth i Murphy a'i wlad ddathlu buddugoliaeth 4-0 dros ddwy gêm, torrodd y newyddion am ddigwyddiad erchyll a oedd wedi atal Manchester United rhag dychwelyd.

Gyda Busby yn brwydo am ei fywyd mewn ysbyty yn yr Almaen, cymerodd Murphy yr awenau ym Manchester United trwy’r cyfnod tywyllaf yn hanes y clwb. Gan sicrhau y byddai’r tîm yn parhau er gwaethaf popeth tra’n galaru am golli chwaraewyr ifanc yr oedd wedi’u hyfforddi a’u datblygu, roedd hefyd yn paratoi Cymru am eu hymddangosiad cyntaf erioed mewn rowndiau terfynol twrnamaint mawr.

Dangosodd Murphy cystal hyfforddwr oedd e’ a chryfder ei gymeriad wrth iddo arwain tîm ifanc a dros dro Manchester United i rownd derfynol Cwpan yr FA y tymor hwnnw. Prin iawn oedd colli yn erbyn Bolton Wanderers yn berthnasol o gwbl o edrych ar y darlun ehangach. Mis yn ddiweddarach, aeth â Chymru i rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd. Parhaodd Murphy fel rheolwr Cymru tan 1964, a bu farw ym 1989 yn 79 oed, tra dal yn gweithio fel sgowt yn Manchester United. Ond bydd ei statws fel arwr yn byw am byth.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×