FC CYMRU – RHIFYN HANES CWPAN Y BYD

Y BOEN A’R TRALLOD O GOLLI ALLAN O DRWCH BLEWYN

Ar drothwy ymgyrch ragbrofol newydd, cawn ein llenwi a gobaith a hyder naturiol o’r newydd fod ein breuddwydion am gael eu gwireddu o’r diwedd, ac y bydd blynyddoedd o rwystredigaeth yn mynd yn angof wrth i’r wefr o gyrraedd y nod ein llyncu ni mewn un. Ond mae Cymru wedi ceisio cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd ar 18 gwahanol achlysur ers 1950, a dim ond wedi llwyddo unwaith.

Ymhlith y rhwystredigaeth gyfarwydd o ddod o fewn trwch blewyn i sicrhau lle ar lwyfan pêl-droed mwyaf y byd, mae dwy ymgyrch ragbrofol lle aeth y cyfan lawr i’r gêm olaf gan arwain at yr hen siom cyfarwydd, ond yn llawer gwaeth na hynny, at drasiedi hefyd. Dyma stori ymdrechion Cymru i gyrraedd y rowndiau terfynol ym 1986 ac ym 1994, a pham y byddant yn cael eu cofio am yr hyn a ddigwyddodd oddi ar y cae yn hytrach nag arno.

Gyda Chymru yn herio Sbaen, yr Alban a Gwlad yr Iâ yng Ngrŵp 7, arweiniodd buddugoliaeth 3-0 dros Sbaen yn Wrecsam yn gynharach yn y flwyddyn at ornest rhwng Cymru a’r Alban ym Mharc Ninian i orffen y grŵp ym mis Medi 1985, gyda’r enillydd yn bachu eu lle yn y rowndiau terfynol. Fe wnaeth presenoldeb soniarus y ‘Tartan Army’ helpu i greu awyrgylch arbennig wrth i bron i 40,000 o gefnogwyr ddod i wylio gêm a fyddai’n creu hanes am ei diweddglo trasig.

Aeth Cymru ar y blaen yn gynnar diolch i Mark Hughes, ond gyda llai na deng munud yn weddill, enillodd yr Alban gic o’r smotyn wrth i’r dyfarnwr o’r Iseldiroedd feirniadu bod David Phillips wedi cyffwrdd y bêl â’i law yn yr ardal. Sgoriodd Davie Cooper o’r smotyn a daliodd yr Alban eu gafael am y pwynt pwysig a fyddai’n mynd â nhw i’r gemau ail-gyfle, gan adael Cymru i felltithio am beth fyddai wedi gallu bod.

 

Ond cafodd y dathliadau eu torri’n fyr wrth i newyddion ddod i’r amlwg bod rheolwr yr Alban, Jock Stein, wedi cwympo'n farw yn dilyn y chwiban olaf. Roedd y trasiedi yn ddigon i roi’r gêm mewn persbectif wrth i’r Alban golli un o’i goreuon, a’i gynorthwyydd Alex Ferguson a fyddai’n mynd â’i dîm i Gwpan y Byd ar ôl curo Awstralia yn y gemau ail-gyfle.

Roedd yr un faint yn y fantol ym mis Tachwedd 1993 wrth i dîm Terry Yorath groesawu Rwmania i Barc yr Arfau yng Nghaerdydd. Cyrhaeddodd tîm o unigolion talentog a oedd yn cynnwys Florin Raducioiu, Ilie Dumitrescu a Gheorghe Hagi ym mhrifddinas Cymru, ond dim ond un pwynt tu ôl i’w gwrthwynebwyr oedd Cymru cyn y gêm dyngedfennol. Dim ond buddugoliaeth fyddai’n gwneud y tro.

 

Hagi a sgoriodd gyntaf ar ôl 32 munud wrth i’r ymdrech o bell gael y gorau o Neville Southall. Ond roedd hyder a chred yn nhîm Yorath, a sgoriodd Dean Saunders gôl haeddiannol i’w gwneud yn gyfartal ar yr awr. Gyda Chymru yn hawlio’r momentwm, fe enillon nhw gic o’r smotyn, ond gwelodd Paul Bodin ei ymdrech yn taro’r traws. Rwmania aeth â hi yn y munudau olaf wrth i Raducioiu ei gwneud hi’n 2-1 i’r ymwelwyr.

Daeth tristwch llethol dros Gymru wrth i Yorath geisio cysuro ei chwaraewyr wrth iddynt adael y cae, ond funudau’n unig ar ôl y chwiban olaf, cafodd ‘flare’ ei daflu o un rhan o’r dorf i un arall, gan ladd y cefnogwr John Hill. Gyda’r canlyniad yn golygu dim erbyn hyn, syfrdanwyd y stadiwm a’r cefnogwyr gan y trasiedi diangen a oedd newydd ddigwydd.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×