STORI SWEDEN

PA MOR AGOS DDAETH CYMRU YM 1958?

John Charles oedd y seren wrth i Gymru gystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf erioed, ac mae’n briodol felly yn unol â’i statws fel un o’r goreuon yn hanes pêl-droed Cymru mai fe fyddai’n sgorio gôl gyntaf Cymru ar y llwyfan rhyngwladol mwyaf posibl.

Ond yn anffodus, roedd yn rhaid i seren Juventus golli’r gêm yn erbyn Brasil yn rownd yr wyth olaf oherwydd anaf, ac mae cenedlaethau o’r Wal Goch wedi myfyrio ar beth fyddai wedi gallu bod byth ers hynny.

Dechreuodd y twrnamaint i Gymru yn erbyn Hwngari yn Sandviken, Sweden, ac o fewn y munudau agoriadol, roedd Cymru ar ei hôl hi wrth i József Bozsik guro’r gôl-geidwad Jack Kelsey. Ond daeth ymateb gan Charles ar ôl 27 munud a rhannu’r pwyntiau a wnaeth y ddau dîm wedi i’r gêm ddod i ben yn gyfartal 1-1. Daeth gôl hwyr gan Fecsico yn Solna ychydig ddyddiau’n ddiweddarach i unioni’r sgôr wedi i Ivor Allchurch sgorio yn yr hanner cyntaf, a daeth gemau grŵp Cymru i ben gyda gêm gyfartal arall yn erbyn Sweden mewn gornest ddi-sgôr.

Dychwelodd Cymru i Solna i chwarae gêm ail-gyfle yn erbyn Hwngari er mwyn gweld pwy fyddai’n mynd ymlaen i rownd yr wyth olaf. Er bod gan Hwngari well gwahaniaeth goliau, ni fyddai hynny’n golygu eu bod nhw’n mynd trwyddo yn syth. Sgoriodd Lajos Tichy i roi Hwngari ar y blaen yn yr hanner cyntaf, ond daeth goliau gan Allchurch a Terry Medwin i droi’r fantais o blaid Cymru, a byddai tîm Murphy yn symud ymlaen i wynebu cewri Brasil yn yr wyth olaf. Yn anffodus, profodd natur gorfforol y gêm yn ormod i Charles ac roedd yn rhaid iddo fethu’r rownd nesaf.

Ym mis Gorffennaf 1957, ymddangosodd y chwaraewr 16 oed Edson Arantes do Nascimento yn ei gêm gyntaf i Frasil a sgorio wrth iddyn nhw golli 2-1 yn erbyn eu gelynion, yr Ariannin. Roedd gôl ryngwladol gyntaf Pelé, fel yr oedd yn cael ei alw, i’w wlad yn golygu mai ef oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio ar y llwyfan rhyngwladol uwch. Roedd llwyddiant yn y sêr i’r chwaraewr o’r foment honno ymlaen.

Gyda buddugoliaethau yn erbyn Awstria a’r Undeb Sofietaidd naill ochr i gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Lloegr, enillodd Brasil eu grŵp. Wrth herio Cymru yn Gothenburg, Pelé a fyddai’n hawlio’r clod a’r penawdau. Ar ôl 66 munud, daeth y bêl i draed seren ifanc Santos a oedd â’i gefn i’r gôl wrth iddo ei rheoli ar ei frest. Chwipiodd y bêl i’r gofod tu ôl iddo gyda’i droed dde, a defnyddiodd yr un droed eto i roi foli i’r bêl heibio Kelsey i ennill y gêm.

Sgoriodd Pelé hatric yn y fuddugoliaeth 5-2 yn y rownd gynderfynol yn erbyn Ffrainc, a byddai’n ychwanegu dwy arall i’w gyfanswm mewn buddugoliaeth 5-2 arall yn erbyn Sweden yn y rownd derfynol. Cymru oedd y tîm a heriodd fwyaf ar Frasil, ond profodd Pelé mai ef oedd y gwahaniaeth gyda’r cyntaf o’i chwe gôl. Daeth pawb i adnabod y gystadleuaeth fel ei dwrnamaint ef, ond byddwn ni byth yn gwybod pa mor wahanol fyddai pethau wedi gallu bod pe bai Charles wedi goroesi’r gêm flaenorol a chwarae yn erbyn Brasil.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×