Y WERINIAETH TSIEC

Tri talentog

Tomás Vaclík

Position Gôl-geidwad

Age 31

Height 188cm

Club Sevilla (Sbaen)

Tomás Vaclík

Rhwystr rhagorol yn y gôl a ddaeth drwy’r rhengoedd ieuenctid yn Vitkovic i chwarae ei gêm gyntaf i’r tîm cyntaf yn 2007. Aeth ymlaen i chwarae i Viktoria Žižkov a Sparta Prague cyn symud i Basel yn y Swistir yn 2014 lle enillodd y gynghrair tair gwaith a chwarae yng Nghynghrair Pencampwyr UEFA.

Diolch i’w berfformiadau i’w glwb a’i wlad, symudodd i Sevilla yn Sbaen yn haf 2018, a’r tymor diwethaf cododd Cynghrair Europa UEFA gyda’r tîm La Liga. Chwaraeodd Vaclík ei gêm ryngwladol gyntaf i’r Weriniaeth Tsiec yn 2012 ar ôl chwarae i’w wlad ym mhob grŵp oedran.

Read More

Tomás Soucek

Position Canol cae

Age 26

Height 192cm

Club West Ham United (Lloegr)

Tomás Soucek

Chwaraewr talentog ac amryddawn, mae Tomáš Souček wedi addasu’n dda i’r Premier League ar ôl i’w gyfnod benthyg o Slavia Prague i West Ham United gael ei wneud yn barhaol haf diwethaf am swm honedig o £19 miliwn.

Bellach yn chwaraewr pwysig yng ngharfan David Moyes, mae Souček hefyd wedi sefydlu ei hun yn y tîm cenedlaethol ers ymddangos am y tro cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Denmarc ym mis Tachwedd 2016 ar ôl cynrychioli ei wlad yn flaenorol ar lefelau Dan 19, Dan 20 a Dan 21.

Read More

Matej Vydra

Position Ergydiwr

Age 28

Height 180cm

Club Burnley (Lloegr)

Matej Vydra

Blaenwr crwydrol sydd wedi chwarae i lu o glybiau yn Lloegr gan gynrychioli Watford, West Bromwich Albion, Derby County a Reading cyn cyrraedd Turf Moor yn haf 2018.

Ar ôl dod trwy’r system ieuenctid gyda Vysočina Jihlava, symudodd Vydra i Baník Ostrava yn 2010, ond arhosodd gyda’r clwb am chwe mis yn unig cyn symud i Udinese yn yr Eidal lle cafodd ei roi ar fenthyg i nifer i glybiau yn Lloegr yn ogystal â Club Brugge yng Ngwlad Belg. Mae Vydra wedi bod yn rhan reolaidd o’r tîm cenedlaethol ers chwarae ei gêm gyntaf ym mis Awst 2012.

Read More
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×