BWLGARIA DAN 21

HANES

Er gwaethaf ymgyrch ragbrofol gref ar gyfer rowndiau terfynol Pencampwriaeth Dan 21 2021 UEFA a welodd Bwlgaria yn hawlio 18 pwynt o’u 10 gêm, y tro diwethaf i’r genedl gymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Dan 21 oedd ym 1990 pan gyrhaeddon nhw rownd wyth olaf y gystadleuaeth.

Ond daeth eu llwyddiant mwyaf yn ôl yn y 1970au wrth gymhwyso ar gyfer pedair rownd derfynol yn olynol rhwng 1972 a 1978, gan gyrraedd y rownd gynderfynol ddwywaith, gyda'r rowndiau terfynol yn 1972, 1974 a 1976 yn cael eu chwarae fel Pencampwriaeth Dan 23. Roedd yn gyfnod a gyd-darodd â llwyddiant yng Nghwpan y Balcanau wrth iddynt ennill y twrnamaint mini deirgwaith ym 1968, 1970 a 1973.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×