26 Mawrth 2021 – Parc y Glowyr, Wrecsam

Cymru Dan 21 1-2 Gweriniaeth Iwerddon Dan 21

Gêm ryngwladol gyfeillgar a oedd yn nodi dechrau cyfnod newydd i’r ddwy wlad, gyda nifer o chwaraewyr yn chwarae eu gêm gyntaf i’w gwlad ar y lefel hon cyn y gemau rhagbrofol ar gyfer yr Ewros.

Daeth gwyntoedd cryfion i groesawu’r timau wrth iddynt gwrdd am y tro cyntaf ar y lefel Dan 21, gyda Billy Sass-Davies yn mwynhau digon o’r meddiant yn y cefn i Gymru yn y camau cynnar. Gyda Luke Jephcott, ergydiwr Plymouth Argyle a oedd ar ei orau, yn arwain ar y blaen, roedd un arf amlwg yn ymosodiad tîm Paul Bodin.

Roedd y gwynt o blaid Cymru yn yr hanner cyntaf, a daeth yn amlwg pa mor anodd oedd ceisio rheoli’r bêl dan yr amodau pan hwyliodd pêl Morgan Boyes ar draws y cae at Niall Huggins allan o gyrraedd y chwaraewr ifanc o Leeds United. Ond buan iawn y dechreuodd yr ymwelwyr deimlo’n gyfforddus yn y gêm a mwynhau cyfnodau hirach o feddiant, er iddynt fethu a herio’r gôl-geidwad Lewis Webb. Joe Adams a sgoriodd gyntaf i Gymru ar ôl 12 munud wrth fanteisio ar waith gwych gan Huggins i roi ergyd odidog heibio Brian Mahar i gornel y rhwyd.

Cafodd Nathan Sheppard, a oedd wedi dod ymlaen fel eilydd yn y gôl, ei brofi ar ôl 57 munud i arbed gan gapten Iwerddon, Lee O'Connor, wrth i amddiffynfa Cymru dynnu eu llygaid oddi ar y bêl am ennyd prin. Daeth nifer o eilyddion ymlaen i'r ddau dîm yn yr 20 munud olaf, ac ar ôl 73 munud, daeth y cyfle perffaith i ran Ryan Stirk i ddyblu’r fantais i Gymru, ond methodd â tharo’r targed. A phrofodd yn gostus i Gymru pan sgoriodd tîm Jim Crawford dri munud yn ddiweddarach i unioni’r sgôr, gyda Jonathan Afolabi yn manteisio’n hyderus ar groesiad o’r dde.

O fewn munud, roedd Iwerddon ar y blaen ar ôl dryswch yn amddiffynfa Cymru rhwng Boyes a Shepperd ar ddiwedd cyfnod hynod rwystredig i Gymru, a’r sgôr yn adlewyrchiad annheg o ansawdd y chwarae. Heb os fe wnaeth y ddwy gôl newid deinameg y gêm, a daeth Afolabi yn agos at ychwanegu trydedd gôl i’r ymwelwyr ar ôl 80 munud. Daeth Rubin Colwill oddi ar y fainc i chwarae ei gêm gyntaf ar y lefel 21 gan gynnig opsiwn ymosodol gwahanol i Gymru ar y chwith. Ond daliodd Iwerddon eu gafael ar y fantais, er gwaethaf cyfnod o bwyso gan Gymru.

Cymru Dan 21 XI: 1. Lewis Webb (12. Nathan Shepperd 46'), 2. Fin Stevens, 5. Billy Sass-Davies, 6. Morgan Boyes, 3. Eddy Jones, 4. Ryan Stirk, 8. Terry Taylor (c) (19. Sam Bowen 72'), 7. Niall Huggins, 11. Joe Adams (15. Rubin Colwill 80'), 10. Siôn Spence (17. Sam Pearson 60'), 9. Luke Jephcott (16. Christian Norton 60').

Eilyddion: 13. Jack Vale, 14. Rhys Hughes, 18. Lewis Collins, 20. Owen Beck, 22. Ben Margetson.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×