5 mlynedd yn ôl - 29 Mawrth 2016

Rwmania Dan 21 2-1 Cymru Dan 21

Roedd Cymru Geraint Williams heb eu curo ar ôl chwe gêm yng Ngrŵp 5 yr ymgyrch ragbrofol hon wrth i’r tîm anelu am MediaS ar gefn gêm gyfartal 0-0 oddi cartref i Fwlgaria.

Ond methodd y tîm a chynnal y perfformiad a oedd wedi eu helpu i herio ar frig y grŵp wrth i Robert Hodorogea roi Rwmania ar y blaen ychydig cyn hanner amser. Yna sgoriodd Alexandru Ioniță y gôl dyngedfennol ar ôl 58 munud wrth iddo ddyblu’r fantais i’r tîm cartref. Sgoriodd Jake Charles yn amser anafiadau, ond roedd hi’n rhy hwyr i Gymru wrth i’r tîm cartref hawlio’r pwyntiau i gyd, a byddai Cymru yn dod yn bedwerydd yn y grŵp yn y pen draw.

Cymru Dan 21 XI: O'Brien, Yorwerth, Lockyer, Jones, O'Sullivan, J.Evans, L. Evans, Sheehan, Hedges, Harrison, Burns.

Eilyddion: Crowe, Charles, Weeks, Roberts, Smith, Wharton.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×