Tîm Dan 21 Cymru

Yr ymgyrch hyd yn hyn

Roedd tîm Paul Bodin yn gobeithio am ddechrau da gartref yn erbyn Moldofa yng ngêm agoriadol yr ymgyrch ragbrofol yn ôl ym mis Mehefin, ond yn sgil cerdyn coch i Sion Spence a cholli sawl cyfle, gêm gyfartal 0-0 oedd hi.

Ond sgoriodd Jack Vale hatric a daeth gôl gan Billy Sass-Davies i roi buddugoliaeth drawiadol 4-0 i’r tîm yn erbyn Bwlgaria yn Sofia ym mis Medi wrth i’r tîm wneud iawn am wastraffu sawl cyfle yn eu gêm flaenorol.

Er gwaethaf yr hwb i’w hyder yn dilyn y fuddugoliaeth, aeth Cymru draw i Orhei ym mis Hydref ar gyfer y gêm oddi cartref yn erbyn Moldofa, a cholli 1-0 ar ôl i Dinis Ieseanu sgorio unig gôl y gêm hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf. Wedi’r gêm honno, aeth y tîm draw i Nijmegen i herio’r Iseldiroedd, ond sgoriodd Jurgen Ekkelenkamp ddwywaith yn fuan, ac aeth yr Iseldiroedd ymlaen i hawlio buddugoliaeth 5-0 bendant, gyda goliau gan Sven Botman, Daishawn Redan, a gôl i’w rwyd ei hun gan Fin Stevens.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×