Ewro Dan 21 UEFA 2023

Esbonio’r ymgyrch ragbrofol

Bydd Cymru yn wynebu’r Iseldiroedd, y Swistir, Bwlgaria, Moldofa a Gibraltar yng Ngrŵp E y twrnamaint rhagbrofol a fydd yn penderfynu ar yr 14 tîm a fydd yn ymuno â'r gwledydd sy’n cynnal y twrnamaint, Rwmania a Georgia. Bydd y rowndiau terfynol yn digwydd rhwng 9 Mehefin a 2 Gorffennaf 2023.

Tynnwyd yr enwau o’r het ym mis Ionawr gyda 53 tîm yn cael eu rhannu i naw grŵp - wyth grŵp o chwe thîm ac un grŵp o bum tîm. Bydd pob grŵp yn cael ei chwarae yn y fformat cartref/oddi cartref arferol gyda'r naw enillydd a'r timau gorau a ddaw yn yr ail safle (heb gynnwys y canlyniadau yn erbyn y tîm a ddaw yn y chweched safle) yn cymhwyso'n uniongyrchol ar gyfer y rowndiau terfynol. Bydd gweddill yr wyth tîm a ddaw yn ail yn chwarae yn y gemau ail gyfle. Yna, bydd enillwyr y pedair gêm dau gymal cartref ac oddi cartref yna’n symud ymlaen i'r rowndiau terfynol. Nid yw Cymru erioed wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol dan 21, ond fe gyrhaeddon nhw'r gemau ail gyfle yn 2009.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×