Tîm Dan 21 Y SWISTIR

TRI TALENTOG

Alexandre Jankewitz

Position Canol Cae

Age 19

Height 181cm

Club Young Boys (Y Swistir)

Alexandre Jankewitz

Mae Jankewitz yn chwaraewr canol cae dawnus i’r Swistir, ac fe gododd drwy rengoedd ieuenctid Southampton ar ôl symud i’r clwb yn 2018 o Servette.

Bachodd y penawdau yn syth bin wrth ddechrau i’r clwb am y tro cyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr, neu’r Premier League, ym mis Chwefror eleni pan gafodd ei anfon oddi ar y cae yn erbyn Manchester United ar ôl cwta dau funud. Dychwelodd Jankewitz i’r Swistir yn ystod yr haf, gan ymuno â Young Boys am ffi anhysbys. Mae wedi chwarae dros ei wlad ym mhob oedran o lefel dan 15 i lefel dan 21, gan sgorio yng ngêm agoriadol yr ymgyrch ragbrofol dan 21 bresennol wrth i’r tîm drechu Gibraltar 4-0.

Read More

Felix Mambimbi

Position Blaenwr

Age 20

Height 170cm

Club Young Boys (Y Swistir)

Felix Mambimbi

Trodd Mambimbi yn 20 ym mis Ionawr eleni, ond mae eisoes wedi chwarae dros 75 gêm gystadleuol gyda thîm cyntaf Young Boys ar ôl chwarae am y tro cyntaf i'r clwb ym mis Chwefror 2019.

Cafodd ei eni yn Fribourg, a chwaraeodd bêl-droed ieuenctid gyda Schoenberg cyn symud at Young Boys yn 2019. Mae’r ergydiwr eisoes wedi hawlio dau deitl cynghrair a Chwpan y Swistir, ac mae eisoes wedi sgorio dros dîm dan 21 y Swistir gyda dwy gôl yn yr ymgyrch hon.

Read More

Noah Okafor

Position Blaenwr

Age 21

Height 185cm

Club Red Bull Salzburg (Awstria)

Noah Okafor

Cododd yr ergydiwr tal ac amryddawn drwy rengoedd ieuenctid Basel yn ei famwlad, y Swistir, cyn symud at glwb Red Bull Salzburg, Awstria yn 2020.

Ar ôl cipio Cwpan y Swistir gyda Basel yn 2019, mae Okafor eisoes wedi hawlio dwbl Awstria ddwywaith, ac fe chwaraeodd am y tro cyntaf dros dîm cyntaf cenedlaethol y Swistir yn ystod ymgyrch Cynghrair Cenhedloedd UEFA pan ddaeth oddi ar y fainc yn erbyn Lloegr ym mis Mehefin 2019.

Read More
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×