Troi ein sylw at yr Eidal

Gogoniant Ewropeaidd yn Rhufain

Mae’r Eidal wedi’u coroni’n bencampwyr y byd ar bedwar achlysur, ac er nad ydyn nhw wedi llwyddo i wneud unrhyw argraff bositif ar y gystadleuaeth ers codi’r tlws yn 2006, maen nhw dal i gael eu cysylltu’n gryf â’r gystadleuaeth.

Er hynny, daeth unig lwyddiant yr Azzurri yn yr Ewros yn eu hymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth, a hynny pan oedden nhw’n ei chynnal yn ôl yn 1968. Ar ôl ennill eu grŵp rhagbrofol, roedd dal angen i’r Eidal guro Bwlgaria i gyrraedd y rowndiau terfynol, a chawsant eu trechu 3-2 yng nghymal cyntaf y gêm ail-gyfle. Ond fe enillon nhw 2-0 yn Naples ger bron 95,000 o gefnogwyr i fynd ymlaen i’r rowndiau terfynol.

Dim ond pedwar tîm a fyddai’n cystadlu yn Ewro 1968, ac yn ymuno â’r Eidal yr oedd Iwgoslafia, Lloegr a’r Undeb Sofietaidd. Cafodd yr Eidal ei dewis i gynnal y gystadleuaeth, a phenderfynwyd cynnal y gemau yn Naples, Florence a Rhufain. Roedd yr Eidal yn wynebu’r Undeb Sofietaidd yn Naples yn y gêm gyntaf a oedd yn rownd gynderfynol hefyd, a daeth y gêm i ben yn ddi-sgôr. Defnyddiwyd ‘coin toss’ i benderfynu pwy fyddai’n cystadlu yn y rownd derfynol, a thynged y ddau dîm yn nwylo’r dyfarnwr Kurt Tschenscher o Orllewin yr Almaen.

“Fe es i gyda chapten Rwsia,” eglurodd capten yr Eidal, Giacinto Facchetti. “Aethon ni i lawr i’r ystafell newid gyda’n gilydd, gyda dau weinyddwr o’r ddau dîm yn dod gyda ni. Tynnodd y dyfarnwr hen ddarn arian o’i boced ac fe wnes i ddewis cynffon. A dyna oedd y dewis cywir, gyda’r Eidal yn mynd i’r rownd derfynol! Fe wnes i rasio fyny’r grisiau gan fod y stadiwm dal yn llawn ac roedd tua 70,000 o gefnogwyr yn disgwyl i glywed y canlyniadau. Roedd fy nathliadau yn ddigon i roi gwybod iddyn nhw eu bod nhw’n cael dathlu buddugoliaeth.”

Llwyddodd Iwgoslafia i drechu Lloegr yn y gêm arall, a byddai’r rownd derfynol yn digwydd yn y Stadio Olimpico yn Rhufain. Sgoriodd Dragan Džajić y gôl gyntaf i Iwgoslafia cyn hanner amser, ond unionodd Angelo Domenghini y sgôr ar ôl munud i fynd a’r gêm i amser ychwanegol. Heb unrhyw goliau pellach, roedd yn rhaid chwarae eto er mwyn pennu’r pencampwyr. Dychwelodd y timau i Rufain ddeuddydd yn ddiweddarach. Roedd dros 68,000 o gefnogwyr wedi bod yn dyst i’r gêm gyfartal 1-1, ond er mawr syndod, dychwelodd llai na hanner hynny ar gyfer y gêm a fyddai’n penderfynu pwy oedd pencampwyr Ewrop.

Profodd i fod yn fuddugoliaeth gyfforddus i’r Eidal, wrth i goliau gan Luigi Riva a Pietro Anastasi sicrhau mai tîm Ferruccio Valcareggi fyddai’n codi’r tlws yn y brifddinas. Dwy flynedd yn ddiweddarach, byddai Valcareggi yn arwain yr Eidal i rownd derfynol Cwpan y Byd ym Mecsico, ond cawsant eu curo’n dda gan dîm dawnus Brasil y cyfnod. Ni lwyddodd yr Eidal i gyrraedd Ewro 1972 nac Ewro 1976, ond daethant yn bedwerydd ym 1980 a chyrraedd y rownd gynderfynol eto ym 1988. Er hynny, maen nhw eto i ailadrodd llwyddiant 1968.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×