Hanes

Hodgson ac Uchafbwynt y Swistir

Mae Roy Hodgson wedi mwynhau gyrfa hyfforddi hir a chrwydrol a ddechreuodd gyda Halmstead yn Sweden yn ôl ym 1976, ac ers hynny mae cyn chwaraewr ieuenctid a rheolwr presennol Crystal Palace wedi gweithio’n helaeth ar draws Ewrop ar lefel clwb ac ar lefel rhyngwladol.

Er y byddai’n mynd ymlaen i reoli timau cenedlaethol yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Lloegr, yn ystod ei gyfnod fel rheolwr y Swistir rhwng 1992 a 1995 y daeth i sylw rhyngwladol, gan fynd a’r tîm i’w safle uchaf erioed ar restr y byd a gwneud argraff enfawr yng Nghwpan y Byd 1994.

Diolch i ymgyrch ragbrofol ragorol, llwyddodd y Swistir i gyrraedd y 3ydd safle ar restr detholion y byd ym mis Awst 1993. Er iddyn nhw ganfod eu hunain mewn grŵp heriol iawn yn erbyn yr Eidal a Phortiwgal, llwyddon nhw i fachu pedwar pwynt oddi ar dîm Eidal talentog Arrigo Sacchi a dim ond colli un gêm yn yr ymgyrch gyfan wrth i Bortiwgal ennill 1-0 ym mis Hydref 1993, a hynny ar ôl i’r ddau dîm ddod yn gyfartal 1-1 yn flaenorol. Roedd chwe buddugoliaeth a thair gêm gyfartal yn ddigon i’r Swistir hawlio’r ail safle a chyrraedd y rowndiau terfynol yn yr Unol Daleithiau, a hynny ar draul Portiwgal.

Stéphane Chapuisat oedd seren hollbwysig y Swistir yn ystod yr oes aur honno, gan sgorio ym muddugoliaeth gadarn 4-1 tîm Hodgson yn erbyn tîm talentog Rwmania yn eu hail gêm grŵp yn y twrnamaint. Daeth gôl gan Alain Sutter a dwy gan Adrian Knup i sicrhau un o ganlyniadau a pherfformiadau gorau’r rowndiau terfynol i’r Swistir.

Er iddynt golli 2-0 yn erbyn Columbia yn y gêm grŵp olaf, aeth y Swistir ymlaen i’r gemau ‘knock-out’ wrth ddod yn ail i Rwmania, ond daeth eu twrnamaint i ben yn Washington wrth i Sbaen hawlio buddugoliaeth 3-0 gadarn. “Roedd Cwpan y Byd '94 yn brofiad anhygoel,” meddai Hodgson yn 2014. “Dwi’n meddwl fod y cyfan yn newydd iawn i ni ar y pryd, gan nad oedd y Swistir wedi llwyddo i gyrraedd twrnamaint am 30 mlynedd, a doedden nhw heb ddisgwyl gwneud hynny chwaith.

“Yn hynny o beth, aethon ni mewn i’r twrnamaint gyda phobl wrth eu bodd a ddim yn disgwyl llawer gennym ni, felly pan na wnaethon ni mor ddrwg â hynny, roedden ni’n arwyr! Dwi’n cofio’r twrnamaint yn glir, roedd hi wedi’i threfnu’n dda ac roedd hi’n boeth iawn. Roedd ein dwy gêm gyntaf yn Detroit yn y Silverdome, a oedd o dan do. Roedd hi tua 95 gradd Fahrenheit a 90% lleithder yn chwarae tu mewn, heb sôn am arogl y popcorn, y byrgyrs a’r cŵn poeth!”

Nid yw’r Swistir wedi llwyddo i ailadrodd y 3ydd safle a gyflawnon nhw o dan Hodgson, er bod y tîm wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y pedwar tro diwethaf yn olynol, a symud trwy’r gemau grŵp yn Ewro 2016. Diolch i ddechrau cadarn i’w hymgyrch Cwpan y Byd nesaf, maen nhw’n wynebu’r haf mewn hwyliau da, gyda Hodgson yn gosod y safon y mae ei olynwyr wedi gorfod ei efelychu er mwyn iddo gyfrif fel llwyddiant.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×