FC CYMRU – EURO EDITION

Taith Cymru i gyrraedd y rowndiau terfynol

Mae dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i ymgyrch ragbrofol Ewro 2020 Cymru ddechrau gyda buddugoliaeth 1-0 dros Slofacia yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ar brynhawn mwyn ym mis Mawrth nôl yn 2019, sgoriodd Daniel James ei gôl ryngwladol gyntaf ar ei ymddangosiad cystadleuol cyntaf i’w wlad ym munudau agoriadol y gêm. Er gwaetha’r dechrau da i’r grŵp, roedd colli’r ddwy gêm nesaf ym mis Mehefin oddi cartref i Croatia a Hwngari yn ergyd enfawr i Gymru, gan olygu bod tasg enfawr o’u blaenau, er mawr rwystredigaeth i Ryan Giggs.

"Dwi’n gwybod bod dal lot o bwyntiau ar ôl i’w hennill, ond ‘da ni wedi gwneud popeth yn anoddach i’n hunain," meddai Giggs ar ôl y ddwy golled. "Wrth edrych ar y ddwy gêm, fe gawson ni ddigon o gyfleoedd i’w hennill nhw. I fod yn deg, mae’n anodd – doedd dim digon o’n chwaraewyr ni yn hollol ffit. Ond mae’n debygol iawn bod yn rhaid i ni ennill bob gêm nawr. ’Da ni’n dibynnu ar dimau eraill o’n cwmpas ni i ollwng pwyntiau, sy’n debygol o ddigwydd gan fod y cystadlu’n ffyrnig. Yn y ddwy gêm, mae'n rhaid i chi achub ar bob cyfle ar y lefel hon. Os nad ydych chi’n gwneud hynny, dyma beth sy’n digwydd. Fe wnaethon ni ildio goliau gwirion. Eto, dydych chi ddim yn gallu gwneud hynny ar y lefel hon. Da ni’n ymfalchïo yn ein hamddiffyn fel tîm, gan wneud yn siŵr ein bod ni, cyn unrhyw beth arall, yn anodd ein curo.”

Gareth Bale oedd arwr yr awr wrth iddo sgorio gôl hwyr i gipio buddugoliaeth 2-1 hanfodol dros Azerbaijan ym mis Medi 2019, ac roedd dyfodiad Kieffer Moore i’r garfan yn hollbwysig hefyd wrth iddo sgorio yn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Slofacia fis yn ddiweddarach. Daeth gêm gyfartal 1-1 arall i ddilyn yng Nghaerdydd ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, wrth i Bale unioni’r sgôr yn erbyn Croatia cyn hanner amser. Byddai’n rhaid i Gymru ennill eu dwy gêm olaf er mwyn cymhwyso’n awtomatig, ac ail-ymunodd Aaron Ramsey â’r bois i roi hwb enfawr i’r garfan cyn wynebu Azerbaijan a Hwngari.

Er gwaetha’r pwysau i sicrhau’r canlyniad cywir, daeth goliau gan Harry Wilson a Moore yn yr hanner cyntaf i gadarnhau buddugoliaeth 2-0 gyfforddus yn erbyn Azerbaijan yn Baku. "Wrth gwrs, mae hi wedi bod yn ymgyrch lan a lawr, ond y peth pwysicaf nawr yw nad ydyn ni wedi colli ers gêm Hwngari ac mae’r hyder yn tyfu,” meddai Bale. “Mae’r chwaraewyr ifanc wedi dod i mewn a gwneud yn wych, mae gennym ni gasgliad arbennig o ieuenctid a phrofiad. Mi fuaswn i wrth fy modd yn ein gweld ni’n llwyddo eto, roedd e’n enfawr y tro diwethaf, ac i wneud hynny eto, fe allai fod hyd yn oed yn fwy anhygoel.”

Daeth noson wefreiddiol i ddilyn fis Tachwedd yng Nghaerdydd gyda Ramsey yn sgorio ddwywaith wrth i Gymru drechu Hwngari i sicrhau lle yn Ewro 2020. “Mae hi’n noson arbennig iawn i Gymru,” meddai Giggs ar ôl y gêm. “Wnaethon nhw ddim rhoi’r ffidil yn y to ar ôl canlyniadau’r haf. Doedd dim lle i gamgymeriadau, ac mae ansawdd y bois wedi dangos, maen nhw’n llawn haeddu’r clod. Rydyn ni wedi methu Aaron [Ramsey], ond dydy chwaraewyr sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth ddim yn tyfu ar goed. Mae’n cadw ei ben ac mae’n anhygoel ar y bêl, fe oedd y gwahaniaeth. Mae hi bendant yn un o nosweithiau gorau fy mywyd i.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×