ALBANIA
Hyfforddwr profiadol sydd bellach yn ei bumed degawd o reoli ar ôl dechrau ei yrfa gyda Molinella yn Serie D yr Eidal yn ôl ym 1979.
Fel chwaraewr, fe gynrychiolodd dimau SPAL, Palermo ac Alessandria yn yr Eidal fel canolwr cyn dod a’i yrfa i ben yn Benevento ym 1977. Yn ystod ei gyfnod fel hyfforddwr a rheolwr, mae Reja wedi cymryd yr awenau mewn nifer o glybiau yng nghynghreiriau is yr Eidal, ond mae hefyd wedi rheoli rhai o’r mawrion gan gynnwys Torino, Cagliari, Genoa, Brescia, Vicenza, Lecce, Napoli, Bologna ac Atalanta ynghyd â dau gyfnod gyda Lazio. Hefyd, fe dreuliodd gyfnod byr gyda chlwb Hajduk Split, Croatia, a dyma ei benodiad cyntaf i dîm cenedlaethol ar ôl cymryd y llyw fel rheolwr Albania ym mis Ebrill 2019.