Bwrw Golwg ar ein gwrthwynebwyr

Albania yn Ewro 2016

Fe gadarnhaodd yr ergydiwr Armando Sadiku ei le yn hanes pêl-droed Albania ar 19 Mehefin 2016 wrth sgorio unig gôl y gêm i sicrhau buddugoliaeth 1-0 i’w dîm dros Rwmania yn Lyon.

Gyda’r tîm yn cystadlu yn rowndiau terfynol twrnamaint mawr am y tro cyntaf erioed, roedd Albania yn wynebu Rwmania yn eu gêm derfynol yng Ngrŵp A, gan wybod mai dim ond buddugoliaeth a fyddai’n rhoi iddynt unrhyw obaith o symud i’r cam nesaf, gan ddibynnu ar ganlyniadau gemau eraill hefyd.

Ar ôl colli 1-0 yn erbyn y Swistir yn Lens i ddechrau’r twrnamaint, teithiodd Albania i Marseille ar gyfer eu hail gêm yn y grŵp yn erbyn Ffrainc. Colli 2-0 wnaethon nhw, gyda thîm Gianni De Biasi dal i bwyso am eu gôl gyntaf yn y twrnamaint wrth wynebu’r drydedd gêm grŵp yn erbyn Rwmania. Gyda phedwar o’r chwe thîm yn y trydydd safle yn symud i gam nesaf y gystadleuaeth, byddai hyd yn oed buddugoliaeth yn golygu bod yn rhaid i Albania ddisgwyl ychydig ddiwrnodau i ganfod eu ffawd.

Ac yntau wedi’i eni ym mwrdeistref Cërrik, Albania ym 1991, roedd Sadiku yn chwarae ar fenthyg gyda thîm Vaduz o riant glwb Zurich yn ‘Super League’ y Swistir adeg Ewro 2016, a dim ond un gôl yr oedd wedi’i sgorio i Albania yn yr ymgyrch ragbrofol wrth iddo ychwanegu’r drydedd mewn buddugoliaeth 3-0 yn erbyn Armenia. Ond diolch i dair gôl yn y gemau cyfeillgar yn erbyn Luxembourg, Qatar a’r Wcráin wrth ddynesu at Ewro 2016, roedd ar ei orau wrth iddo adael am Ffrainc yr haf hwnnw.

 

Ar ôl 43 munud, syfrdanodd Sadiku ei gefnogwyr gyda pheniad cadarn a arweiniodd at ffrwydrad o ddathliadau gwyllt. “Mae’n emosiynol iawn wrth gwrs,” meddai Sadiku ar ôl y gêm. “Roedden ni eisoes wedi gwireddu ein nod, ac am hynny rydym ni’n hapus iawn. Rydw i ar ben fy nigon i sgorio, ond mae’r clod yn mynd i’r tîm cyfan. Roedd hi’n foment emosiynol iawn. Moment hapus iawn i weld yr Albaniaid, i roi gwên ar eu hwynebau a’u gweld yn dathlu. Am hyn, rydw i’n hapus iawn.”

 

“Dwi’n siwr ein bod ni wedi rhoi llawer o lawenydd i gefnogwyr Albania,” meddai’r rheolwr De Biasi. “Nid yn unig y rhai yn Albania, ond y rhai sy’n byw ar hyd a lled y byd. Heddiw fe gawson ni beth oedd o fewn ein gafael ni yn y ddwy gêm gyntaf. Mae’n rhaid i chi sgorio er mwyn cael canlyniadau. Fe wnaethon ni gynnwys tîm sydd ag ansawdd a chryfder ac sydd ddim ond wedi gadael dwy gôl i gefn y rhwyd yn y gemau rhagbrofol. Fe gyrhaeddon ni gyda chalon ac ansawdd. Fe wnaethon ni chwarae gyda’n pennau a chryfder meddwl. Dyma beth hoffwn i ei weld ym mhob gêm.”

Er gwaetha’r golygfeydd godidog a’r dathliadau a ddaeth i ddilyn, nid oedd y fuddugoliaeth yn ddigon i ennill lle i Albania yn rownd yr 16 olaf wrth i ganlyniadau dros y tridiau nesaf gadarnhau y bydden nhw’n ffarwelio â’r gystadleuaeth. Er bod eu siom enfawr yn amlwg, mae’r atgof o’u noswaith orau erioed yn dod yn felysach dros amser, a bydd Armando Sadiku yn byw am byth fel arwr ei dîm cenedlaethol am ei gôl enwog.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×