Troi ein sylw at yr Eidal

Gair gan ein Gwrthwynebwyr

Ar ôl ymgyrch ragbrofol drawiadol ar gyfer yr Ewros, parhau a wnaeth perfformiad penigamp yr Eidal yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA y llynedd i ennill eu grŵp heb golli’r un gêm.

Fe wnaethant sicrhau tair gêm gyfartal a thair buddugoliaeth, gan ollwng pwyntiau yn erbyn Bosnia a Herzegovina, Gwlad Pwyl a’r Iseldiroedd. Heb ei trechu trwy gydol 2020, enillodd yr Eidal bump o’u wyth gêm yn ystod y flwyddyn.

Diolch i driawd o fuddugoliaethau 2-0, mae’r Eidal yn mwynhau dechrau gwych i’w hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd ar ôl curo Gogledd Iwerddon, Bwlgaria a Lithwania yn ôl ym mis Mawrth. Yn ogystal â pherfformio’n wych i’w glwb Lazio, mae’r ergydiwr disglair Ciro Immobile wedi parhau â’r perfformiad hwnnw yn rhyngwladol, ac mae eu hamddiffyn cadarn yn awgrymu bod traddodiadau catenaccio pêl-droed yr Eidal yn fyw ac yn iach yn yr oes sydd ohoni.

 

“Mae Mancini wedi dod â meddylfryd hollol wahanol i’r tîm,” eglurodd y newyddiadurwr pêl-droed o’r Eidal, Paolo Menicucci, wrth FC Cymru. “Mae’r Eidal bob amser yn ceisio gorfodi eu steil eu hunain yn erbyn unrhyw wrthwynebwyr, gyda phêl-droed sy’n seiliedig ar feddiant. Yr enghraifft fwyaf o hyn yw’r triawd mae Mancini wedi’u dethol yng nghanol y cae. Mae'r Eidal bob amser wedi cael ymladdwr canol cae yn y gorffennol, chwaraewr fel Gennaro Gattuso er enghraifft. O’r dechrau, dewisodd Mancini dri chwaraewr canol cae technegol ac eithaf bach fel Barella, Jorginho a Verratti yn lle hynny. Llai o’r cryfder corfforol, a mwy o sgiliau ar y bêl. Roedd yn ddewis dewr, ac fe dalodd ar ei ganfed.

“Mae’r Eidal wedi ennill canlyniadau gwych o dan Mancini ac mae’r hyder yn ôl yn sicr. Nid yw’r Azzurri wedi colli gêm ers mis Medi 2018 ac maen nhw wedi ennill eu chwech olaf trwy sgorio 14 gôl a heb ildio’r un. Mae'n ymddangos bod y chwaraewyr i gyd yn mwynhau arddull chwarae Mancini a phob un yn hapus ac yn awyddus i chwarae i'r tîm cenedlaethol nawr. Dwi'n hollol siŵr y bydd yr Azzurri yn dibynnu ar yr un dull yn yr Ewros. Mae sawl tîm sy'n gallu mynd bob cam o’r ffordd, ac mae'r Eidal yn eu plith.

“Ar ôl gweld y grwpiau, roedd llawer yn credu bod yr Eidal yn ffodus i fod yn y grŵp yma, ond dydw i ddim mor siŵr erbyn hyn. Mae Twrci yn hedfan ar hyn o bryd, mae'r Swistir wedi bod ymhlith elît byd pêl-droed Ewrop ers blynyddoedd lawer ac mae ganddyn nhw garfan gyda digon o brofiad ar lefel uchel. Ac o ran Cymru, does neb yma wedi anghofio eu taith yn Ewro 2016. Ynghyd â Gwlad yr Iâ, dwi’n siŵr mai nhw oedd ail dîm pawb. Yn sicr, fydd neb yn cymryd Cymru yn ysgafn y tro hwn.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×