Troi ein sylw at dîm Twrci

Gair gan ein gwrthwynebwyr

"Os ydyn ni eisiau symud ymlaen i’r ail rownd, mae angen i ni ddod allan o grŵp sy’n cynnwys yr Eidal, y Swistir a Chymru,” eglurodd rheolwr Twrci, senol Günes i’r wasg yn ddiweddar. 

“Efallai bod ein gwrthwynebwyr ni’n gryf, ond mae angen i ni gyrraedd y nod hefyd. Dyma’r tîm a enillodd barch eu gwlad. Wrth gwrs, bydd newidiadau, ond mae ein drws ar agor i bawb. Er hynny, mae’n rhaid i’r chwaraewyr newydd berfformio’n well. ‘Da ni o hyd yn sgowtio am dalent newydd. Ein tîm ni ydy hwn, tîm pawb ydy hwn. Gall perfformiad y tîm cenedlaethol ysbrydoli y genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr.”

Ac nid yw Twrci wedi bod yn brin o goliau yn 2021 gyda thîm Güneş yn sgorio 10 gôl yn y tair gêm yn ystod mis Mawrth i fachu saith pwynt allan o naw i ddechrau eu hymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd. Daeth buddugoliaeth 4-2 drawiadol dros yr Iseldiroedd diolch i hatric gan Burak Yılmaz, ac fe ddilynodd y tîm hynny gyda buddugoliaeth 3-0 oddi cartref yn erbyn Norwy gydag Ozan Tufan yn sgorio dwy. Ond profodd tair gêm gystadleuol mewn dim ond saith diwrnod i fod yn ormod o her wrth i’r tîm ddod yn gyfartal 3-3 â Latfia yn Istanbul. Cyn hynny, disgynnodd Twrci o Gynghrair Cenhedloedd B UEFA ddiwedd 2020.

“Mae Twrci yn wlad llawn cefnogwyr pêl-droed brwd gyda phoblogaeth o dros 80 miliwn,” eglurodd newyddiadurwr Eurosport, Pete Sharland yn ei erthygl ar y tîm cenedlaethol. “Gwlad gydag angerdd aruthrol dros eu timau domestig a chenedlaethol. Dyma’r wlad a syfrdanodd y byd yn 2002 pan ddaethant yn drydydd yng Nghwpan y Byd. Ac fe enillon nhw galonnau ac eneidiau chwe blynedd yn ddiweddarach trwy ailadrodd eu llwyddiant ym Mhencampwriaeth Ewrop 2008. Pan ddaw Pencampwriaeth Ewrop 2021, dyma’r pedwerydd tro yn unig iddynt gystadlu yn yr 20 mlynedd diwethaf.

“Am ba bynnag reswm, mae’n ymddangos bod Twrci ar drothwy oes aur arall, grŵp sy’n gallu dilyn yn olion traed tîm 2002. A’r seren ddisgleiriaf wrth gwrs yw Cengiz Ünder. Dewin dawnus sydd wedi gwneud argraff syfrdanol ar Serie A. Y math o chwaraewr a fyddai’n denu enwau fel 'Messi Twrci' gan ei gefnogwyr, er nad ydy hynny yn gwneud cyfiawnder â’i dalentau. Efallai y bydd yr athrylith tu ôl i’r llwyddiant yn enw cyfarwydd, sef Şenol Güneş, a oedd wrth y llyw yn 2002. Fe ddychwelodd Güneş ym mis Chwefror 2019 ar ôl i’r ffederasiwn ffarwelio â Mircea Lucescu. Fe yw’r un a arweiniodd y tîm i Ewro 2020, gan guro pencampwyr y byd Ffrainc 2-0 ar hyd y ffordd.

“Roedd y noson honno yn Konya yn enghraifft berffaith o pam fo Twrci yn mynd i fod mor anodd eu curo. Maen nhw wedi’u trefnu’n dda ac yn anodd eu torri lawr, ac yn beryg bywyd wrth wrthymosod. Does dim dwywaith bod y dorf swnllyd wedi helpu hefyd, ac o ran hynny mae’n siom na fydd Twrci yn cynnal unrhyw un o’r gemau gyda’r twrnamaint yn digwydd ar draws sawl dinas. Bydd y pwysau mor ddwys ag erioed, mae cyfryngau a chefnogwyr Twrci ymhlith y mwyaf anfaddeuol ym myd pêl-droed, ond efallai mai’r genhedlaeth hon yw’r rhai sy’n gallu goresgyn hynny a chyflawni rhywbeth arbennig iawn.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×