Troi ein sylw at y Swistir

Gair gan ein gwrthwynebwyr

Mae goliau cynnar wedi bod wrth wraidd llwyddiant cychwynnol y Swistir i’r flwyddyn bêl-droed meddai’r newyddiadurwr pêl-droed o’r Swistir, Peter Birrer wrth FC Cymru yn ddiweddar.

“Heb os ac oni bai, y peth pwysicaf yw bod y tîm wedi dechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd gyda dwy fuddugoliaeth,” meddai Birrer. Daeth goliau gan Breel Embolo, Haris Seferović a Steven Zuber i agor yr ymgyrch gyda buddugoliaeth 3-1 yn erbyn Bwlgaria yn Sofia. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, sgoriodd Xherdan Shaqiri o dîm Lerpwl yr unig gôl mewn buddugoliaeth 1-0 dros Lithwania. Ac ar ôl gwersyll hyfforddi llwyddiannus ym mis Mawrth, daeth buddugoliaeth gadarn 3-1 yn erbyn y Ffindir.

“Yn y fuddugoliaeth yn Sofia fe wnaethon ni ddechrau’r gêm yn anhygoel,” ychwanegodd Birrer. “Daeth tair gôl y Swistir yn yr 13 munud cyntaf, record yn hanes y gymdeithas! Roedd hyfforddwr y tîm cenedlaethol, Vladimir Petković, wedi gwneud ei ddymuniad am gôl gyntaf sydyn yn glir cyn y gêm, ond go brin ei fod wedi disgwyl i bethau fynd mor dda yn syth bin. Ac yn yr ail gêm yn erbyn Lithwania hefyd, roedd y Swistir yn gyflym oddi ar y marc. Sgoriodd Xherdan Shaqiri ar ôl llai na 100 o eiliadau i’w gwneud hi’n 1-0, ac felly arhosodd pethau.”

Bu bron i’r Swistir ddisgyn o’u grŵp yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA ddiwedd 2020, ond llwyddon nhw i aros yng Ngrŵp A diolch i’w canlyniadau yn erbyn yr Wcráin i ddod yn drydedd. Dim ond un fuddugoliaeth a ddaeth o’u chwe gêm, a phrofodd hynny i fod yn dyngedfennol gyda’r canlyniadau terfynol. Ar ôl colli 2-1 i’r Wcráin yn Lviv, enillodd y Swistir yr ail gêm 3-0 gan fod y Wcráin yn methu â chystadlu oherwydd gofynion ynysu. Dyna’r unig ganlyniad cadarnhaol i’r Swistir yn 2020, ond nawr mae’r genedl yn edrych yn gadarnhaol tua’r dyfodol.

“Mae chwaraewyr fel Shaqiri, Granit Xhaka a’r gôl-geidwad Yann Sommer wedi bod yn siapio’r tîm ers sbel,” eglurodd Birrer. “Mae Seferović a Ricardo Rodríguez yn aelodau rheolaidd cadarn hefyd. Un chwaraewr sydd wedi denu sylw yn ddiweddar gyda’i chwarae ysgafn yw Ruben Vargas sy’n chwaraewr ymosodol bywiog, tra bod Nico Elvedi yn dipyn o ddarganfyddiad hefyd. Mae canolwr cefn Borussia Mönchengladbach wedi gwneud argraff gyda’i arddull digynnwrf a’i berfformiadau cyson cryf.

“Mae tîm cenedlaethol y Swistir wedi dod yn rhan reolaidd o dwrnameintiau mawr yn y mileniwm newydd. Er ein bod ni’n wlad fach, ers Ewro 2004, yr unig dwrnamaint na lwyddon ni i’w chyrraedd oedd Ewro 2012. Ond mae un nod enfawr nad ydyn ni wedi’i gyrraedd hyd yn hyn – rownd yr wyth olaf. Daeth y tîm yn agos yn Ewro 2016, ond fe gollon nhw i Wlad Pwyl mewn ciciau o’r smotyn yn yr 16 olaf, a chawsant eu curo gan Sweden ar yr un cam yng Nghwpan y Byd 2018. Mae chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr fel ei gilydd yn ysu am le yn rownd yr wyth olaf. Dyna’r nod yn y pen draw.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×