GEMAU GWYCH

Cymru 1-0 Yr Almaen

Ar gyfer y rhifyn ‘Gemau Gwych’ hwn, rydym ni’n bwrw golwg ar ddeg o gyn reolwyr Cymru, a’r gemau sy’n aros yn y cof o’u cyfnodau wrth y llyw, a phrin y gall unrhyw un gymharu â Terry Yorath pan mae’n dod at fod yn un o ffefrynnau’r Wal Goch.

Cymru 1-0 Yr Almaen - 5 Mehefin 1991 - Parc yr Arfau Caerdydd, Caerdydd.

Cymru XI: Southall (gôl-geidwad), Aizelwood, Bodin, Melville, Ratcliffe (Capten), Phillips, Horne, Nicholas, Hughes, Rush, Saunders (Speed 89).

Goliau: Rush (69).

Mae cefnogwyr Cymru yn cofio Terry Yorath orau am fethu, o drwch blewyn, â chymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA 1994. Ond yn ogystal â gyrfa chwarae o 59 gêm, a chyfnod fel capten rhwng 1969 a 1981, arweiniodd y tîm at ddwy fuddugoliaeth drawiadol yn y brifddinas, gan gynnwys buddugoliaeth fythgofiadwy yn erbyn pencampwyr y byd ar y pryd, yr Almaen.

Flwyddyn cyn y gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 1992 UEFA, roedd yr Almaen wedi ennill Cwpan y Byd. Bellach o dan reolaeth Berti Vogts, ymhlith eu tîm o sêr disglair roedd Rudi Völler, Jurgen Klinsmann, Andreas Brehme a’r capten Lothar Matthaus. Ond roedd gan Gymru ei sêr ei hun, gyda Mark Hughes, Ian Rush a Dean Saunders ar y blaen. A Rush a fyddai’n sgorio’r gôl dyngedfennol hanner ffordd drwy’r ail hanner wrth iddo fanteisio ar bêl wych gan Paul Bodin trwy’r canol, ac wrth i Gymru hawlio buddugoliaeth gofiadwy.

“Roedd hi’n noson anhygoel – noson na fydda’ i fyth yn ei hanghofio,” esboniodd Rush wrth BBC Radio Wales ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. “Fe wnes i lwyddo i gael y blaen ar [Guido] Buchwald, ac ro’n i’n gwybod mod i angen cael fy nghorff o’i flaen fel mai’r peth gwaethaf a allai ddigwydd oedd ein bod yn cael cic o’r smotyn. Ond bownsiodd y bêl i fyny ac roedd yn rhaid i mi addasu fy nghorff, ond wrth lwc, aeth i mewn i’r gornel isaf. Ar ôl hynny roedd yr Almaen yn rhoi pwysau arnon ni, fel y tîm roedden ni’n ei adnabod o Gwpan y Byd. Fi sgoriodd y gôl ac enillodd y clod, ond mae’n rhaid canu clodydd Neville Southall. Gwnaeth ambell arbediad anhygoel. Roedd hi'n noson anhygoel. Roedd curo pencampwyr y byd yn rhywbeth arbennig iawn.”

“Da ni wedi gweithio’n galed ar gyfer hyn, ac mae’n fuddugoliaeth gofiadwy,” meddai Yorath yn ei gyfweliad ar ôl y gêm gyda Bob Humphries o BBC Wales. “Dw i wrth fy modd. Wnaethon ni ddim chwarae yn ymosodol ond dw i ddim yn meddwl y gallwch chi wneud hynny yn erbyn yr Almaen. Fe wnaethon ni chwarae i geisio eu hatal, ac rydw i wrth fy modd dros y chwaraewyr. Mae'n rhaid i mi roi clod i'r holl chwaraewyr, fe wnaethon nhw chwarae yn dda iawn. Mae'n ddiwrnod gwych i Gymru.” Ond roedd mwy i ddod gan dîm Yorath, ac yn eu gêm nesaf ym mis Medi sgoriodd Saunders i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy 1-0 dros gewri Brasil yng Nghaerdydd.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×