GEMAU GWYCH

Cymru 4-1 Norwy

Ar gyfer y rhifyn ‘Gemau Gwych’ hwn, rydym ni’n bwrw golwg ar ddeg o gyn reolwyr Cymru, a’r gemau sy’n aros yn y cof o’u cyfnodau wrth y llyw. Y diweddar Gary Speed sy’n ymddangos nesaf yn y gyfres, a’i gêm olaf fel rheolwr yn dangos Speed ar ei orau.

Cymru 4-1 Norwy - 12 Tachwedd 2011 - Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd.

Cymru XI: Hennessey (gôl-geidwad), Gunter, Matthews, Williams, Blake, Bale, Allen (Robson-Kanu 76), Crofts, Ramsey (Capten) (King 90), Bellamy (Edwards 90), Morison (Vokes 70).

Goliau: Bale (11), Bellamy (16), Vokes (88) (89).

Roedd arwyddion o gynnydd o dan Gary Speed yn dod i’r amlwg trwy gydol 2011 wrth i'r cyn chwaraewr canol cae geisio newid diwylliant y tîm a chyflwyno safon broffesiynol newydd i'r tîm. Aethpwyd i'r afael â materion oddi ar y cae, a daeth cyfeiriad y tîm ar y cae yn glir gyda buddugoliaeth gyfeillgar drawiadol yn erbyn tîm dawnus Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Gyda Gareth Bale a Craig Bellamy yn chwarae mewn safleoedd llydan ymosodol, roedd cyflymder y ddau yn her i amddiffynfa’r gwrthwynebwyr o’r dechrau’n deg, ac fe sgoriodd y ddwy gôl yr un o fewn yr 16 munud agoriadol. Fe wnaeth camgymeriad gan y gôl-geidwad Wayne Hennessey ar ôl awr arwain at gôl gan Erik Huseklepp. Ond sgoriodd yr eilydd Sam Vokes ym munudau olaf yr ornest i sicrhau buddugoliaeth i Gymru.

“Dwi’n credu bod gan Gary garfan dda ac mae wedi rhoi hyder iddyn nhw nad oedd yn bodoli o’r blaen,” esboniodd cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts wrth Talksport drannoeth i’r gêm. “Rydan ni'n sgorio goliau, heb ddibynnu ar un chwaraewr i'w sgorio. Rydan ni wedi gorffen y flwyddyn yn rhagorol. Rydan ni mewn grŵp yn yr ymgyrch ragbrofol nesaf y gallwn ni fod yn gystadleuol ynddo, ac mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn i ni. Dwi’n credu ein bod ni wedi troi cornel, a does ’na ddim angen i ni fod ofn neb. Maen nhw wedi codi calon cenedl gyfan dros y pedair gêm ddiwethaf.”

Ond trodd dathliadau’r genedl yn dorcalon cyn diwedd y mis. Fore Sul, 27 Tachwedd 2011, cyhoeddwyd y newyddion bod Gary Speed wedi marw yn 42 oed. Mae gwaddol Speed, a’i waith yn ystod y deg gêm y bu wrth y llyw, yn parhau hyd heddiw. Mae ei olynwyr wedi etifeddu tîm cryf a phroffesiynol, elfen sy'n angenrheidiol er mwyn cystadlu yn y gêm ryngwladol fodern. Caiff pêl-droed ei ddiffinio gan yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau, ond trasiedi ddynol oedd hon a dynnodd sylw at ba mor bwerus, ond eto pa mor amherthnasol yw pêl-droed, wrth i'r byd chwaraeon ddod ynghyd i gofio un o fawrion yr oes fodern.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×