GEMAU GWYCH

Cymru 2-1 Hwngari

Ar gyfer y rhifyn ‘Gemau Gwych’ hwn, rydym ni’n bwrw golwg ar ddeg o gyn reolwyr Cymru, a’r gemau sy’n aros yn y cof o’u cyfnodau wrth y llyw. Dyma ddechrau trwy fwrw golwg ar gêm dyngedfennol yng ngyrfa Jimmy Murphy.

Cymru 2-1 Hwngari - 17 Mehefin 1958 - Stadiwm Rasunda, Sweden

Cymru XI: Kelsey (gôl-geidwad), Hopkins, Sullivan, Williams, Bowen (Capten), M.Charles, Allchurch, J.Charles, Hewitt, Medwin, Jones.

Goliau: Allchurch (55), Medwin (76).

Jimmy Murphy yw’r unig reolwr hyd yma a lwyddodd i arwain Cymru i rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA, ac mae’n parhau i fod yn ffigwr hynod boblogaidd yn hanes y tîm cenedlaethol. Cymhwysodd y tîm ar gyfer y rowndiau terfynol yn Sweden gyda buddugoliaeth ail gyfle dros Israel ar ôl nifer o newidiadau gwleidyddol ac o’r herwydd, ni theithiodd Murphy â Manchester United fel rheolwr cynorthwyol Matt Busby ar gyfer eu gêm yn rownd wyth olaf Cwpan Ewrop yn Belgrade. Dyna sut, wrth gwrs, y bu iddo osgoi trychineb awyr Munich.

Er i Gymru gyrraedd rownd yr wyth olaf, dim ond un fuddugoliaeth a hawliodd Cymru yng Nghwpan y Byd 1958, a hynny yn erbyn Hwngari mewn gêm ail gyfle i benderfynu pa wlad fyddai’n symud yn ei blaen o’r grŵp i gamau knockout y gystadleuaeth. Ar ôl dod yn gyfartal yn erbyn Hwngari, Mecsico a Sweden, yr ail gêm yn erbyn Hwngari fyddai’n penderfynu pa wlad fyddai’n herio Brasil yn rownd yn yr wyth olaf. Camodd y ddau dîm yn benderfynol i’r cae yn Solna, yn hyderus o’u gallu i drechu’r gwrthwynebwyr. Yn y diwedd, wrth gwrs, hawliodd Cymru fuddugoliaeth gofiadwy.

Hwngari oedd ar y blaen ar ôl 33 munud, a hynny diolch i Lajos Tichy, ond daeth dwy gôl yn yr ail hanner gan Ivor Allchurch a Terry Medwin i roi gwynt yn hwyliau Cymru. Daeth cymeriad tîm Murphy i’r amlwg wrth iddynt lwyddo i ddal eu gafael ar fuddugoliaeth. Ond roedd pris i’r llwyddiant, a cherddodd John Charles oddi ar y cae yn gloff, ar ôl chwarae budr gan dîm Hwngari. Daeth i’r amlwg na fyddai’n chwarae yn erbyn Brasil a chafodd chwarae brwnt Hwngari ei gosbi gyda cherdyn coch i Ferenc Sipos ar ôl 79 munud. “Dwi’n ddyn balch”, meddai Murphy ar ôl y gêm. “Dwi’n dal i gredu mai fy strategaeth o fynd am gêm gyfartal yn erbyn Sweden oedd yr un gywir, gan 'mod i’n sicr y gallai’r hogiau guro Hwngari. Beth bynnag fydd yn digwydd ddydd Iau mae'r chwaraewyr wedi gwneud Cymru'n falch.”

Doedd ymdrech lew Cymru yn erbyn Brasil ddim yn ddigon, wrth i Pelé hawlio ei le ar y llwyfan rhyngwladol a sgorio unig gôl y gêm ag yntau ddim ond yn 17 oed. Aeth Brasil ymlaen i guro Ffrainc ac yna Sweden yn y rownd derfynol i gipio tlws Jules Rimet yn Gothenburg. “Dwi’n dal i ddweud hyd heddiw, pe bai John [Charles] wedi chwarae yn rownd yr wyth olaf, gallai’r canlyniad wedi bod yn wahanol,” meddai Cliff Jones wrth BBC Sport yn 2014. “Byddai wedi bod yn boen yn ystlys Brasil. Hyd heddiw, rownd yr wyth olaf ym 1958 oedd y gêm anoddaf a gafodd Brasil yng Nghwpan y Byd.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×