BELARWS
Cyn ergydiwr yw Kondratiev a dreuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa chwarae gyda Dinamo Minsk, a ddaeth i frig y Gynghrair Sofietaidd ym 1982.
Yn ogystal â chwarae yn ei famwlad, Belarws, chwaraeodd bêl-droed i glybiau yn Rwsia, Awstria a'r Almaen, a chwaraeodd 14 gêm dros dîm cenedlaethol yr Undeb Sofietaidd rhwng 1984 a 1986. Er hynny, ni chafodd ei ddewis i chwarae yn y garfan a aeth i Gwpan y Byd FIFA ym Mecsico. Ag yntau’n hyfforddwr ers dau ddegawd bellach, bu’n rheolwr ar dîm cenedlaethol Belarws rhwng 2011 a 2014. Daeth yn ei ôl fel rheolwr dros dro ym mis Ionawr, ar ôl gweithio fel rheolwr cynorthwyol i'w ragflaenydd Mikhail Markhel.