GEMAU GWYCH

Slofacia 2-5 Cymru

Ar gyfer y rhifyn ‘Gemau Gwych’ hwn, rydym ni’n bwrw golwg ar ddeg o gyn reolwyr Cymru, a’r gemau sy’n aros yn y cof o’u cyfnodau wrth y llyw. Nesaf, John Toshack, gyda buddugoliaeth bendant oddi cartref.

Slofacia 2-5 Cymru - 12 Medi 2007 - Stadiwm Anton Malatinský, Slofacia.

Cymru XI: Hennessey (gôl-geidwad), Gabbidon, Ricketts, Collins, Morgan, Bale, Davies, Ledley (Vaughan 85), Robinson, Bellamy, Eastwood (Fletcher 73).

Goliau: Eastwood (22), Bellamy (34) (41), Durica (78 gôl i’w rwyd ei hun), Davies (90).

Ag yntau wedi dychwelyd am ail gyfnod fel rheolwr, bydd blynyddoedd John Toshack yn aros yn y cof am iddo ddwyn chwaraewyr fel Gareth Bale, Joe Allen, Aaron Ramsey ac eraill trwy’r rhengoedd i gyflawni pethau mawr i Gymru. Pan gamodd Toshack i’r adwy ar ôl i Yorath adael, dim ond 47 diwrnod ac un gêm a barodd. Ond rhwng 2004 a 2010 bu’n rheolwr ar 53 gêm ryngwladol, a chyda chefnogaeth Brian Flynn, bu’n ddylanwad mawr ar ddyfodol y tîm cenedlaethol, er nad oedd yno i weld yr ymdrechion hynny yn dwyn ffrwyth.

Yn ymuno â Chymru yn eu grŵp rhagbrofol estynedig ar gyfer Ewro 2008 UEFA roedd yr Almaen, y Weriniaeth Tsiec, Cyprus, Gweriniaeth Iwerddon a San Marino. Dechreuodd Cymru’r ymgyrch drwy guro’r Weriniaeth Tsiec 2-1 ym mis Medi 2006, cyn dioddef cryn embaras o golli 5-1 yn erbyn Slofacia yng Nghaerdydd fis yn ddiweddarach. Ond roedd hi’n ornest arwyddocaol gan fod Bale wedi sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf gyda chic rydd nodweddiadol.

Yn ogystal â buddugoliaethau dros Cyprus a San Marino, cafwyd gêm gyfartal dda yn erbyn y Weriniaeth Tsiec y flwyddyn ganlynol, ond roedd colli i Weriniaeth Iwerddon a'r Almaen yn golygu ei bod yn annhebygol iawn y byddai Cymru yn cymhwyso. Serch hynny, sgoriodd Cymru pum gôl am yr unig dro o dan Toshack yn eu hail gêm yn erbyn Slofacia yn Trnava ym mis Medi 2007, gyda goliau gan Freddy Eastwood, Simon Davies, gôl gan Ján Durica i’w rwyd ei hun a gôl gan Craig Bellamy yn sicrhau’r fuddugoliaeth 5-2. Roedd colli 3-1 yn erbyn Cyprus yn Nicosia y mis canlynol yn golygu diwedd digon cyfarwydd a siomedig i ymgyrch Cymru, wrth iddynt orffen yn bumed yn y grŵp.

“Doedd neb yn disgwyl i Gymru ennill 5-2 yn Slofacia,” yn ôl cyn-gapten Cymru, Kevin Ratcliffe, yn ei golofn yn BBC Sports yn dilyn yr ornest. “Dwi’n falch dros y chwaraewyr, yn falch dros John Toshack ac yn arbennig o falch dros y cefnogwyr. Cafodd Craig Bellamy gêm wych, ond roedd y ffordd y camodd y tîm cyfan i’r adwy yn yr ail hanner yn anhygoel. Roedd ’na ’chydig o wendidau yn yr hanner cyntaf ond fe aeth y tîm i’r afael â nhw yn yr ail hanner. Mae gan John Toshack y dull cywir ond ar brydiau rydw i’n teimlo nad ydyn ni wastad yn atal digon ar y tîm arall. Roedd y gôl-geidwad, Wayne Hennessey, yn rhagorol gyda llaw - mae'n ychwanegiad gwych ac mae ganddo ddyfodol disglair yn y gêm.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×