BELARWS
Mae Bykov yn ganolwr amddiffynnol amryddawn, ac mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa gyda Dinamo Minsk. Dechreuodd arni yn chwarae i Zvezda-BGU Minsk, a dychwelodd i Dinamo Minsk yn gynharach eleni ar ôl cyfnod llwyddiannus gyda Dinamo Brest. Yn ystod cyfnod Bykov gyda’r tîm, Dinamo Brest oedd pencampwyr Uwch Gynghrair Belarws a'r Super Cup yn 2019.
Cawr o chwaraewr, a chwaraeodd am y tro cyntaf dros y tîm cenedlaethol yn 2014 mewn buddugoliaeth 5-1 dros Liechtenstein, a hynny ar ôl iddo ymddangos 17 o weithiau dros y tîm Dan 21. Serch hynny, ni chwaraeodd dros y tîm cyntaf eto tan 2017 pan ddychwelodd i'r garfan i weld Swistir yn eu curo 1-0.