Hoelio’r sylw ar Gymru

Ffydd, gobaith a gwireddu’r amhosib

Gall rhai digwyddiadau oedi amser.

Does dim modd eu rhoi nhw mewn potel a’u cadw, ond maent ar gof a chânt eu hadrodd am flynyddoedd i ddod. Ac wrth i dreigl amser newid fymryn ar y realiti, mae maint yr hyn a gyflawnwyd yn cynyddu wrth iddo gadarnhau ei le mewn hanes. Yn y chwedlau am bêl-droed Cymru, bydd un noson ym mis Gorffennaf yn Lille yn sefyll allan uwchlaw’r un noson arall. Honno oedd y noson y gwireddwyd yr amhosib, a sut y daeth grŵp o unigolion ynghyd yn lliwiau Cymru i ddangos y gall unrhyw beth ddigwydd gyda digon o benderfyniad a chred, hyd yn oed pan mae’r fantais yn eich erbyn

Roedd Cymru wedi goresgyn yr ods i gyrraedd rownd wyth olaf Ewro 2016 UEFA. I nifer o gefnogwyr, cyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint mawr am y tro cyntaf ers 58 o flynyddoedd oedd yr uchafbwynt. I eraill, roedd bod yn Bordeaux wrth i’r anthem atseinio ar gyfer y gêm agoriadol yn erbyn Slofacia yn ddigon, tra bo rhai dim ond eisiau dathlu gôl. Beth bynnag a fyddai’n digwydd yr haf hwnnw yn Ffrainc, byddai Cymru wedi creu hanes, ac roedd pawb eisiau bod yn rhan o hynny. Yn wir, hwnnw oedd haf mwyaf hyfryd ein bywydau, a bydd y cwestiwn o ran beth fyddai wedi gallu bod yn parhau yn destun trafod a dadlau am flynyddoedd i ddod.

Fe wnaeth tîm Chris Coleman greu eiliadau arbennig ym mhob gêm yn ystod y twrnamaint, ond roedd llawer yn disgwyl i’r daith ddod i ben yn erbyn Gwlad Belg yn Lille. Gyda mwy o gefnogwyr yn gefn iddyn nhw oherwydd eu taith fyrrach, sgoriodd Radja Nainggolan y gôl gyntaf i Wlad Belg ar ôl 13 munud gydag ergyd wych, tra bo cerdyn melyn i Ben Davies ar ddechrau’r gêm yn golygu y byddai’n methu’r rownd gynderfynol pe bai Cymru yn llwyddo. Roedd y freuddwyd yn chwalu’n araf, a’r fuddugoliaeth 1-0 dros Wlad Belg yn y gemau rhagbrofol yn teimlo fel oes wahanol.

Ond roedd hi ymhell o fod drosodd. Gan gymryd rheolaeth o’r gêm yng nghanol y cae, sgoriodd y capten Ashley Williams i unioni’r sgôr ar ôl 30 munud, ac roedd y momentwm o’u plaid nhw o hynny ymlaen. Roedd chwarae Cymru llawn cystal â’u gwrthwynebwyr erbyn hyn, ac fe greodd Hal Robson-Kanu gyfle a fyddai’n diffinio ei yrfa yn gynnar yn yr ail hanner wrth iddo droi amddiffynfa Gwlad Belg tu chwithig allan a rhoi ei dîm ar y blaen. Gyda dim ond ychydig o funudau’n weddill o’r gêm, cododd yr eilydd Sam Vokes uwchben ei wrthwynebwyr i benio croesiad perffaith gan Chris Gunter heibio Thibuat Courtois, ac ar ôl gwrthsefyll cyfnodau hir o bwysau, roedd Cymru wedi ennill y gêm.

Roedd Coleman, ei dîm rheoli, y chwaraewyr a’r Wal Goch oll fel un wrth i’r bêl adael pen Vokes a chanfod cefn y rhwyd. Gorfoledd. Roedd yr amhosib wedi dod yn realiti. Gyda munudau’n weddill, roedd yn rhaid i Gymru ail-grwpio a chanolbwyntio ar y dasg o’u blaenau, ond roedd Gwlad Belg yn gwybod mewn gwirionedd bod y gêm drosodd. Mae Cymru wedi mwynhau buddugoliaethau enwog dros Wlad Belg yn y gorffennol, a byddant eto yn y dyfodol, ond does dim a all ddod yn agos i emosiwn y noson honno yn Ffrainc.

Daeth ail gerdyn melyn i Aaron Ramsey gan olygu na fyddai ef na Davies yn bresennol wrth i Gymru golli yn y rownd gynderfynol i’r pencampwyr yn y pen draw, Portiwgal. Mae’n ffaith sy’n cael ei derbyn yn y Wal Goch y byddai eu presenoldeb wedi mynd â Chymru yr holl ffordd i’r rownd derfynol, ond byddwn ni byth yn gwybod go iawn. Yn union fel y bu i John Charles fethu rownd yr wyth olaf yn erbyn Brasil yng Nghwpan y Byd 1958, rhain yw’r elfennau ansicr sy’n penderfynu’r uchafbwyntiau ac isafbwyntiau pan ddaw i ddilyn ffawd ein tîm cenedlaethol. Ond gadewch i rwystredigaeth y gorffennol ysbrydoli llwyddiant y dyfodol, gan obeithio na fydd y ddrama o ddilyn Cymru ar y daith hon byth, byth yn newid.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×