Hoelio’r sylw ar Gymru

Trevor Ford – Arwr yr Hatric

Roedd Trevor Ford, a aned yn Abertawe ym mis Hydref 1923, yn un o ergydwyr gorau ei genhedlaeth, gyda Sunderland yn torri record trosglwyddo Prydain i’w ddenu o Aston Villa am 30,000 yn 1950.

"Dwi’n meddwl mod i am setlo lawr a pheidio â gadael i’r pris o £30,000 fy mhoeni i,” meddai Ford ar y pryd. “Ond ar hyn o bryd, dwi’n gobeithio y bydd rhywun arall yn dwyn y record fel y chwaraewr drytaf yn y gêm.” Er i’w berfformiadau a’i goliau i Abertawe a Villa ysgogi Sunderland i fuddsoddi yn ei wasanaethau, roedd ei ddoniau i’w gweld yn gyson hefyd yng nghrys coch Cymru.

Gan sgorio 23 o goliau mewn 38 o ymddangosiadau i’w wlad rhwng 1946 a 1956, sgoriodd Ford ei unig hatric i Gymru mewn buddugoliaeth 5-1 gadarn dros Wlad Belg ym Mharc Ninian ym mis Tachwedd 1949. Roy Paul a sgoriodd gyntaf ar ôl 18 munud cyn i Ford hawlio’r cyntaf o’i dair gôl chwe munud yn ddiweddarach. Sgoriodd Roy Clarke a Ford dwy gôl arall cyn hanner amser, a chwblhaodd Ford ei hatric ar ôl 49 munud. Daeth gôl gysur i Wlad Belg yn hwyr yn y gêm pan sgoriodd Rik Coppens o’r smotyn. Roedd y ddau dîm wedi cwrdd yn gynharach yn y flwyddyn yn Liège, a tra bod Ford eto wedi llwyddo i daro’r targed, colli 3-1 wnaeth Cymru yn y gêm honno.

Ond er gwaethaf ei holl dalent, cafodd ei wahardd o’r gêm ym Mhrydain yn dilyn datgeliad dadleuol yn ei hunangofiant ym 1956. Gan ddatgelu system dalu anghyfreithlon o’i gyfnod yn Sunderland a oedd yn golygu eu bod yn gallu osgoi’r terfyn uchaf ar gyflogau gyda chymhelliannau eraill, byddai ei waharddiad yn golygu na fyddai’n rhan o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA ym 1958. Symudodd dramor i barhau â’i yrfa yn yr Iseldiroedd gyda PSV Eindhoven, ac fe arhosodd yno am dair blynedd, cyn symud yn ôl i Gasnewydd ac i Newport County ym 1960 ar ôl ennill achos cyfreithiol yn erbyn ei waharddiad. Ond erbyn hynny, roedd ei oes aur y tu ôl iddo.

Ergydiwr cryf a chorfforol, roedd Ford hefyd yn sgoriwr naturiol ac fe sgoriodd yn gyson trwy gydol ei yrfa i’w glwb a’i wlad. Gyda John Charles wedi’i anafu ar gyfer rownd yr wyth olaf yn erbyn Brasil yng Nghwpan y Byd, mae cwestiwn dilys o ran p’un a fyddai Ford wedi bod yr eilydd perffaith. Ond ni wnaeth Ford erioed ddifaru cyhoeddi’r honiadau yn erbyn ei gyn-glwb. Bu farw yn 2003 yn 79 oed, ac fe dalodd Ian Rush, y chwaraewr i chwalu ei record sgorio i Gymru, deyrnged i’r ergydiwr.

“Wnes i erioed ei weld yn chwarae, ond fe wnaeth fy nhad ac fe ddywedodd wrtha ‘i cystal chwaraewr oedd e’’,” meddai Rush. “Ond yn fwy na hynny. Roedd yn ŵr bonheddig go iawn. Fe wnes i gwrdd ag ef ychydig o weithiau a dwi’n cofio’r noson ges i’r record – yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd – fe wnaeth Trevor bwynt o ddod draw ata i ar ôl y gêm. Fe ddaeth draw i ysgwyd fy llaw a dweud, 'Da iawn.' A dyna sut ddyn oedd e’. Roedd hi wastad yn wych torri record fel chwaraewr, ond roedd e’n arbennig iawn torri record Trevor. Mae ei farwolaeth yn newyddion trist iawn i fyd pêl-droed Cymru gyfan.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×