Hanes y gwrthwynebwyr

Aur yng Ngemau Olympaidd 1920

Er eu bod wedi dod yn agos, nid yw Gwlad Belg erioed wedi llwyddo i ennill Cwpan y Byd FIFA nac Ewros UEFA.

Cyrhaeddodd y tîm rownd gynderfynol Cwpan y Byd 1986 a 2018 a rownd derfynol yr Ewros yn 1980, ond mae’r ddwy wobr enfawr yn parhau y tu hwnt i afael y Diafoliaid Cochion. Ond fe ddaeth y tîm i’r brig yn y gemau Olympaidd yn ninas Antwerp yng Ngwlad Belg yn ôl yn 1920, a hynny ar ôl rownd derfynol ddadleuol iawn.

Gyda 15 o wledydd yn cystadlu, cafodd Gwlad Belg osgoi’r rownd agoriadol, ac fe aeth Ffrainc ymlaen heb chwarae eu gêm gyntaf hefyd ar ôl i’r Swistir dynnu allan ar fore’r gystadleuaeth a cholli eu lle. Roedd hi’n glir o hynny ymlaen nad twrnamaint syml fyddai hwn. Llwyddodd Sbaen i guro Denmarc 1-0 gan olygu gêm yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Gwlad Belg, a diolch i hatric gan Robert Coppée, y wlad gartref oedd yn fuddugol o 3-0.

Aeth Gwlad Belg ymlaen i drechu’r Iseldiroedd mewn buddugoliaeth 3-0 arall yn y rownd gynderfynol gyda goliau gan Henri Larnoe, Louis van Hege a Mathieu Bragard ger bron torf o dros 22,000 yn ôl y sôn. Byddai gêm yn erbyn Tsiecoslofacia yn pennu pwy fyddai’n hawlio’r medalau aur, a daeth diwedd dadleuol i’r daith wrth i Tsiecoslofacia gerdded oddi ar y cae mewn protest yn erbyn y dyfarnwr o Loegr, Mr John Lewis.

Ar ôl i’w hamddiffynnwr, Karel Steiner, weld y cerdyn coch am honiadau iddo ymosod ar Coppée ar ôl 39 munud, roedd Tsiecoslofacia eisoes yn anhapus am y penderfyniad i ganiatáu i ail gôl amheus Larnoe ar ôl hanner awr i roi Gwlad Belg 2-0 ar y blaen sefyll. Cawsant eu gwahardd o’r twrnamaint am eu gweithredoedd, ac enillodd Gwlad Belg y medalau aur. Cynhaliwyd twrnamaint mini i benderfynu pwy rhwng Sbaen, yr Eidal, Sweden a Norwy fyddai’n chwarae’r Iseldiroedd am y fedal arian. Sbaen a ddaeth yn fuddugol yn dilyn buddugoliaeth 2-0 dros yr Eidal yn rownd derfynol y twrnamaint mini ac fe aethant ymlaen i guro’r Iseldiroedd 3-1.

Er na lwyddodd y rhan fwyaf o’r tîm a enillodd fedalau aur yn Antwerp i wneud llawer o argraff ar y gêm broffesiynol, roedd ambell i eithriad. Van Hege oedd chwaraewr mwyaf enwog y garfan Olympaidd, roedd yr ergydiwr eisoes wedi sgorio 98 o goliau mewn 91 o ymddangosiadau fel capten AC Milan rhwng 1910 and 1917. Byddai’n mynd ymlaen i gynrychioli Gwlad Belg yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf fel rhan o’r tîm ‘Bobsleigh’.

Yn y cyfamser, byddai Fernand Wertz yn cynrychioli Antwerp a Standard Liege, ac fe barhaodd i chwarae ar lefelau is pyramid pêl-droed Gwlad Belg heibio ei 50. Chwaraeodd y gôl-geidwad Jean de Bie bron i 300 o gemau i Racing Club ym Mrwsel, tra bo Fernand Nisot eisoes wedi hawlio record ryngwladol sy’n dal i sefyll heddiw. Ym 1911, Nisot oedd y chwaraewr ‘fengaf erioed i chwarae i dîm cenedlaethol Gwlad Belg ac yntau’n 16 oed ac 18 diwrnod pan chwaraeodd yn y fuddugoliaeth 7-1 dros Ffrainc ym Mrwsel.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×