Hoelio’r sylw ar Gymru

Y Triawd Talentog yn Taro’r Targed

Sgoriodd Trevor Ford hatric pan gurodd Cymru Gwlad Belg 5-1 ym 1949, ac ni fyddai’r ddwy wlad yn dod benben eto tan i dîm Terry Yorath groesawu’r Diafoliaid Cochion i gêm ragbrofol Ewro 1992 UEFA ym Mharc yr Arfau, Caerdydd ym mis Hydref 1990.

Kevin Ratcliffe oedd y capten ar ei 50fed ymddangosiad i’w wlad, ac ymhlith tîm cadarn Yorath i ddechrau roedd Mark Hughes, Ian Rush a Dean Saunders yn ymosod. Ar y llaw arall, roedd gan Wlad Belg yr amryddawn Enzo Schifo yng nghanol y cae, ond cafodd ei reoli’n dda gan Peter Nicholas a Barry Horne.

Roedd hon yn genhedlaeth dalentog i Gymru, ond aeth y tîm ar ei hôl hi ar ôl 24 munud pan gurodd Bruno Versavel y gôl-geidwad Neville Southall gydag ergyd o ymyl yr ardal. Ond funudau’n ddiweddarach, fe wnaeth Rush ei gwneud hi’n gyfartal gan fanteisio ar bas wych gan Saunders i godi’r bêl dros ben Michel Preud'homme a oedd yn dod tuag ato. Cyfartal oedd hi am hanner amser, ond sgoriodd Cymru ddwywaith eto yn hwyr yn y gêm, ar ôl 82 ac 87 munud, gyda Saunders yn sgorio’r gyntaf a Hughes yn gorffen gyda rhediad pwerus trwy amddiffynfa Gwlad Belg.

Dim ond enillwyr y grŵp a fyddai’n ennill lle yn rowndiau terfynol yr Ewros yn Sweden, a’r Almaen aeth â’r prif safle uwchben Cymru, er i Rush sgorio unig gôl y gêm pan ddaeth y ddwy ochr benben yng Nghaerdydd yn hwyrach yn yr ymgyrch. Hon oedd yr unig gêm na lwyddodd yr Almaen i’w churo, ac roedd gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gwlad Belg oddi cartref yn Anderlecht a chrasfa 4-1 i’r Almaen yn Nuremberg yn golygu bod Cymru, unwaith yn rhagor, yn colli allan ar le mewn rowndiau terfynol mawr. Byddai Yorath a'i garfan yn dod yn boenus o agos eto yn yr ymgyrch nesaf.

Mae’n parhau’n rhwystredigaeth na fyddai chwaraewyr fel Southall, Hughes, Rush, Saunders, Gary Speed a Ryan Giggs ymhlith nifer o sêr eraill fyth yn cael y cyfle i chwarae mewn rowndiau terfynol twrnamaint mawr yn ystod eu gyrfaoedd llwyddiannus. “Mae gen i lawer o atgofion arbennig,” meddai Yorath wrth gylchgrawn cefnogwyr Red Passion ychydig o flynyddoedd ar ôl iddo ymadael â’r swydd. “Roedd gweithio’n barhaus gyda chwaraewyr o ansawdd yn anhygoel. Roedden nhw wastad yn ymateb a bob tro eisiau chwarae i Gymru. Yn fy amser fel rheolwr, roedd yr ysbryd tîm yn 150% bob tro. Roedd pawb wrth eu bodd bod yno, ac roedd hynny’n heintus iawn!

“Roedd Neville Southall yn rhan hollbwysig o’r cyfan. Roedd ganddo brofiad gwych ac ar un pwynt roedd ymhlith y tri gôl-geidwad gorau yn y byd siŵr o fod. Kevin Ratcliffe hefyd, roedd e’n amddiffynnwr anhygoel, ac yn foi da, a wastad eisiau chwarae. Eto, ar un pwynt, dwi’n meddwl ei fod yn un o’r amddiffynwyr gorau yn Ewrop. Pan gollodd tîm Cymru Ratcliffe fe ddechreuon ni ddirywio. Roedd yn rhaid i ni ddod â chywion ifanc i mewn, fel Mark Aizlewood ac Andy Melville. Yn ymosod roedd gennym ni Ryan [Giggs] yn amlwg, ond roedd hynny tua diwedd fy nghyfnod fel rheolwr. Ond roedd Ian Rush yn arwr i Gymru. Fe gafodd ei siâr o broblemau gyda Juventus, ond roedd e’ wastad yn caru chwarae i Gymru.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×