Hoelio’r sylw ar Gymru

Johnson yn serennu ymhlith y genhedlaeth nesaf

Nid tîm cyntaf Cymru yn unig sydd wedi hawlio buddugoliaethau enwog yn erbyn Gwlad Belg. Yn yr ymgyrch ragbrofol ddiwethaf ar gyfer Ewro Dan 21 UEFA, fe ddaeth Brennan Johnson i sylw rhyngwladol wrth iddo sgorio unig gôl y gêm mewn buddugoliaeth 1-0 dros i Diafoliaid Cochion yn y Cae Ras ym mis Medi 2019.

Gan roi i ni gipolwg o’r rôl y mae’r tîm Dan 21 yn ei chwarae yng nghynnydd y chwaraewyr sy’n dod trwy’r system, yn ymuno â Johnson yng ngharfan Paul Bodin roedd Mark Harris, Ben Cabango, Rhys Norrington-Davies a Brandon Cooper, sydd oll wedi bod yn rhan o garfan gyntaf Cymru ers hynny.

“Fe wnes i chwarae i Loegr ond mae Cymru yn grêt,” meddai Johnson wrth BBC Sport Wales ym mis Tachwedd 2019. “Mae wedi bod yn brofiad da iawn. Mae Cymru wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol ac rydw i wrth fy modd yn chwarae iddyn nhw. Mae’r cysylltiad Cymreig yn fy nheulu ar ochr fy mam, ac rydw i wedi bod yn agos iddyn nhw ers erioed. Rydw i wastad yn eu gweld nhw - maen nhw o hyd yn dod i’n gweld ni. Maen nhw i gyd yn gefnogwyr Cymru ac wedi bod yn dweud wrtha i am chwarae i Gymru. Rydw i’n mwynhau dod i ffwrdd gyda’r tîm Dan 21 a gobeithio y gall pethau ddatblygu. Gobeithio y galla’ i eu gwneud nhw’n falch.”

Gan chwarae ei gêm gyntaf i’r tîm Dan 21, sgoriodd Johnson unig gôl y gêm yn erbyn Gwlad Belg ar ôl dim ond tri munud. Ond byddai’n profi i fod yn ymgyrch hir i Gymru wrth i’r Almaen ddominyddu ac wrth i Wlad Belg ennill eu gêm gartref yn Leuven 5-0 y flwyddyn ganlynol. Wrth gwrs, bydd datblygiad chwaraewyr i’r tîm cyntaf bob tro yn cael effaith fawr ar y garfan Dan 21, ond peth positif yw hynny yn ôl Bodin, yn arbennig o weld chwaraewyr fel Johnson ac eraill yn symud trwy’r rhengoedd i gynrychioli eu gwlad ar y lefel uchaf.

“Mae chwaraewyr yn cael eu symud i’r garfan gyntaf yn eithaf sydyn,” meddai Bodin. “Y peth cadarnhaol am hyn yw bod y rhan fwyaf o chwaraewyr ifanc eisiau gweld llwybr. P’un a ydych chi gyda’r tîm 17, 19 neu 21, rydych chi eisiau gweld llwybr i’r tîm cyntaf. Does dim dwywaith bod hynny wedi digwydd cryn dipyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Dyna un o’r elfennau deniadol sydd gennym ni pan fo chwaraewyr efallai’n gymwys i chwarae i wlad neu wledydd eraill. Rydym ni’n esbonio’r llwybr iddyn nhw ac maen nhw’n gallu ei weld dros eu hunain. Y prif beth yw ein bod yn creu amgylchedd da i’r chwaraewyr ddod i mewn iddo fel y gallant fwynhau eu pêl-droed. Dydy hi ddim yn llwybr hawdd, ond mae’n llwybr sydd bendant yno i fechgyn Cymru.”

Mae Brennan yn fab i David Johnson, a ddaeth drwy’r timau ieuenctid yn Manchester United cyn cynrychioli nifer o glybiau gan gynnwys Ipswich Town a Nottingham Forest, ond dewisodd chwarae pêl-droed rhyngwladol i Jamaica. “Mi fyddai wedi bod yn braf pe bai e’ wedi gallu chwarae iddyn nhw hefyd,” ychwanegodd Brennan, sydd wrthi’n dangos ei ddoniau yn Forest yn y Championship ar hyn o bryd. “Ond mae wedi hoffi fy ngweld i yn chwarae i Gymru. Mae wedi bod i weld y gemau ac mae’n hapus iawn gyda fi yn chwarae i Gymru. Rydw i’n cael cyngor ganddo - beth oedd e’n arfer ei wneud a sut y byddai wedi newid pethau fel chwaraewr. Mae’n gallu dweud wrtha i beth dylwn i ei wneud nawr ac efallai sut y galla’ i wneud pethau’n wahanol. Gall hynny ond bod yn beth da.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×