Cipolwg ar Gymru

HANES BARRY HUGHES

Tra bo’r rhan fwyaf o ffigyrau pêl-droed Cymru sydd wedi mentro dramor yn ystod eu gyrfaoedd yn fwy adnabyddus yma yng Nghymru nac yn y gwledydd hynny a oedd yn rhan o’u straeon unigol, mae ambell eithriad i’r rheol.

Un o’r rheiny yw’r hyfforddwr Barry Hughes a aned yng Nghaernarfon ar nos Galan ym 1937. Fe wnaeth enw i’w hyn yn yr Iseldiroedd lle cysylltodd â dau o’r enwau mwyaf yn hanes pêl-droed yr Iseldiroedd.

Fel y gwelsom yn ein stori ddiwethaf, taith i’r Iseldiroedd gydag AZ Alkmaar a ffurfiodd sylfaen gyrfa ddisglair Jess Fishlock, a chafodd y llwybr hwn ei droedio’n flaenorol gan Hughes wrth iddo geisio ehangu ei orwelion ar ôl dod trwy’r rhengoedd ieuenctid gyda West Bromwich Albion. Symudodd i’r Iseldiroedd yn 1960 i chwarae i Blauw-Wit ac Alkmaar '54, ond fel hyfforddwr a rheolwr y daeth ei wir ddoniau i’r amlwg, a rhwng 1965 a 1988 roedd yn rheolwr ar saith o wahanol glybiau yn yr Iseldiroedd, gan gynnwys dau gyfnod yn HFC Haarlem a Sparta Rotterdam.

Mae Louis van Gaal a Ruud Gullit yn ddau o’r enwau mwyaf sefydledig yn hanes gêm yr Iseldiroedd. Ac yntau bellach yn ôl fel rheolwr y tîm cenedlaethol am y trydydd tro, mae cysylltiad van Gaal â’n cyfres o straeon alltud yn parhau gan iddo hefyd chwarae i AZ Alkmaar a’u rheoli. Ond yn ystod ei gyfnod cyntaf yn Sparta Rotterdam ym 1980 y bu i lwybrau’r ddau groesi. “Roedd van Gaal eisoes yn gapten pan gyrhaeddais i,” eglurodd Hughes yn 2014.

“Roedd yn chwarae yng nghanol y cae, ac yn dipyn o chwaraewr. Ddim y cyflymaf, ond roedd e’n gallu gweld sefyllfaoedd. Ro’n i wedi clywed straeon am sut y byddai’n mynd i mewn i swyddfa’r rheolwr. Pan gymerais i’r awenau, fe ffoniodd i ddweud ei fod eisiau siarad am y tîm. Wnes i ddweud wrtho nad oedd gen i ddiddordeb yn ei farn ef, a bod angen mi wneud fy meddwl fy hun i fyny am y chwaraewyr. Fe wnes i gymryd y gapteiniaeth oddi arno a dwi ddim yn meddwl ei fod yn fy hoffi i oherwydd hynny! Er i mi ei wneud yn gapten eto yn fy nhrydydd tymor.”

Ond er bod tensiwn rhwng Hughes a Van Gaal, stori hollol wahanol oedd ei berthynas â Gullit. Cafodd arwr tîm buddugol Ewro 1988 ei arwyddo fel chwaraewr yn ei arddegau gan Hughes yn HFC Haarlem am ffi o gwmpas £1,000 yn ôl y sôn ym 1978. Llai na degawd yn ddiweddarach, byddai’n ennill y Ballon d’or-- wrth i’w berfformiad i’w wlad ac i AC Milan gadarnhau ei le ymhlith cewri mwyaf y gêm.

“Fe wnes i ddod o hyd i ddiemwnt o’r enw Gullit a oedd angen mymryn o sglein arno,” meddai Hughes. “Ond hyd yn oed ac yntau ond yn 16 oed, ro’n i’n gwybod y byddai’n dod yn un o’r chwaraewyr gorau erioed, ac fe ddywedais i hynny wrtho. Roedd e’n chwaraewr o ansawdd mewn tîm Haarlem gwael. Fe gymerodd hi flwyddyn i mi ei arwyddo gan fod ei dad eisiau iddo fynd i’r ysgol a chael ei dystysgrif, ond roedd e’ werth yr aros. Yna, aeth ymlaen i Feyenoord, ac mae’r gweddill yn hanes.” Cafodd dylanwad Hughes mo’i anghofio chwaith. “Fy hyfforddwr yn Haarlem, Barry, a ddysgodd i mi wersi pêl-droed,” eglurodd Gullit flynyddoedd yn ddiweddarach. Fe wnaeth Hughes ymddeol i Amsterdam, ac yn anffodus, bu farw ym mis Mehefin 2019 yn 81 oed.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×