HANES EIN GWRTHWYNEBWYR

ESTONIA YNG NGEMAU OLYMPAIDD 1924

Er nad ydynt erioed wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint mawr, fe wnaeth Estonia gystadlu yng Ngemau Olympaidd 1924 ym Mharis.

Ond profodd i fod yn gystadleuaeth fer i’r tîm, wrth iddyn nhw golli eu hunig gêm 1-0 yn erbyn yr Unol Daleithiau yn Stadiwm Stade Pershing yn ardal Bois de Vincennes prif ddinas Ffrainc ger bron torf o dros 8,000 o gefnogwyr.

Dan hyfforddiant Ferenc Kónya o Hwngari ar y pryd, cyn ergydiwr a oedd wedi mwynhau gyrfa chwarae grwydrol yn ystod yr 1920au a’r 1930au a aeth ag ef i glybiau yn yr Almaen, yr Eidal, y Swistir, a Ffrainc, fe ildiodd Estonia gic o’r smotyn ar ôl 15 munud, a sgoriodd Andy Straden o’r smotyn. Cafodd Estonia'r cyfle i unioni’r sgôr pan gawsant gic o’r smotyn eu hunain ar ôl 68 munud, ond tarodd y canolwr Elmar Kaljot y traws gyda’i ymdrech a ffarweliodd ei dîm â’r gystadleuaeth ar ôl dim ond 90 munud. Cafodd yr Unol Daleithiau eu curo’n dda yn y rownd derfynol wrth i’r enillwyr terfynol, Uruguay, ennill 3-0.

Ond penderfynodd Estonia aros ym Mharis ar gyfer gweddill y gystadleuaeth er gwaethaf eu hymadawiad cynnar ohoni, gan chwarae gêm ryngwladol gyfeillgar yn erbyn Iwerddon a cholli 3-1. Yna, teithiodd y tîm o amgylch yr Almaen i chwarae cyfres o gemau yn erbyn amryw glybiau cyn dychwelyd adref. Daeth llwyddiant i’w rhan bum mlynedd yn ddiweddarach wrth iddynt ennill y Gwpan Baltig am y tro cyntaf yn 1929, gyda gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Latfia cyn curo Lithwania 5-2 yn y gêm derfynol dyngedfennol.

I lawer o garfan Estonia’r cyfnod, cystadlu yn y Gemau Olympaidd oedd uchafbwynt eu gyrfa, ond mae llawer o straeon eraill sy’n gysylltiedig â’r chwaraewyr a gynrychiolodd eu gwlad ym Mharis. Fe wnaeth yr ergydiwr Johannes Brenner ymddeol o bêl-droed yn ddim ond 24 oed i ganolbwyntio ar ei yrfa yn y fyddin, tra bo’r asgellwr Ernst Joll wedi gweithio fel gohebydd a golygydd chwaraeon drwy gydol y 1920au. Byddai’r gôl-geidwad, Evald Tipner, hefyd yn cynrychioli Estonia mewn hoci yn ystod yr un flwyddyn Olympaidd honno.

Ond roedd sawl stori dorcalonnus i’w hadrodd am y garfan yn ystod y 1940au, wrth i Hugo Väli, Voldemar Rõks a Heinrich Paal oll farw mewn gwersyll Carchar Sofietaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ogystal, cafodd Otto Silber, Harald Kaarmann ac Eduard Eelma oll eu harestio gan Gomisariaeth y Bobl o Faterion Mewnol (NKVD), eu dedfrydu i farwolaeth a’u dienyddio wedi hynny. Roedd hi’n ddiwedd trist i hanes arwyr pêl-droed cyntaf Estonia.

Carfan Estonia – Gemau Olympaidd 1924: J.Brenner, E. Einmann, Eduard Ellman-Eelma, V.Gerassimov, N.Javorski, Ernst Joll, Alfei Jürgenson, Harald Kaarmann, Elmar Kaljot, J.Kihlefeld, August Lass, J.Lello, Ralf Liivar, Heinrich Paal, Arnold Pihlak, H.Põder, Bernhard Rein, Voldemar Rõks, Otto Silber, Evald Tipner, Oskar Üpraus, Hugo Väli.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×