CYMRU FEATURE

JESS FISHLOCK MBE ​​​​​​- Y Bêl-droedwraig Benderfynol

Ychydig iawn o chwaraewyr proffesiynol sydd wedi profi gyrfa mor grwydrol â’r Gymraes Jess Fishlock.

Mae’r bêl-droedwraig 34 oed yn parhau i fod yn ffigwr canolog yng nghynlluniau Gemma Grainger cyn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2023 sy’n dechrau’n hwyrach mis yma. Ond gallai ei stori fod wedi bod yn un tra gwahanol heb ei hymroddiad cryf i lwyddo a chael trwy gam cyntaf ei thaith broffesiynol i frig y gêm fenywaidd.

A hithau’n dalent a ddaeth i’r amlwg trwy rengoedd tîm Dinas Caerdydd, llwyddodd Fishlock i ddenu sylw rhyngwladol yn ei harddegau, ac ar ôl capteinio tîm Dan 19 Cymru, chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r tîm cyntaf yn erbyn y Swistir yn 2006. Ond gêm yn erbyn yr Iseldiroedd a fyddai’n profi’n hollbwysig yn ei gyrfa. Aeth hyfforddwr yr Iseldiroedd y diwrnod hwnnw ymlaen i gymryd yr awenau gyda AZ Alkmaar, ac wedi i botensial Fishlock wneud argraff arno, cynigiodd iddi ei chontract proffesiynol cyntaf, gan olygu mai hi oedd y chwaraewr tramor cyntaf i ymuno â’r Vrouwen Eredivisie. I ddechrau, roedd hi’n ei chael yn anodd addasu i wahanol wlad a diwylliant, ond buan iawn y setlodd i’w hamgylchedd newydd er gwaethaf ei hiraeth a’i hunan-amheuaeth, ac aeth ymlaen i hawlio dwy gynghrair yn olynol wrth i’w hyder ffynnu.

“Roedd e’n rhywbeth yr oedd yn rhaid i mi ei wneud,” eglurodd Fishlock wrth Owain Tudur Jones fel rhan o gyfres y Gymdeithas Bêl-droed o gyfweliadau yn 2019. “Pan o’n i’n tyfu fyny, roedd pêl-droed i ferched yn ddim, felly roedd yn rhaid i mi adael. Fell pan ddaeth y cyfle i adael a mynd i’r Iseldiroedd i chwarae, sef fy sefyllfa broffesiynol gyntaf, fe es i mewn pythefnos. Mae’n rhaid i chi gael yr adegau hynny pan mae popeth yn dod at ei gilydd. Roedden nhw’n chwarae ffordd hollol wahanol o bêl-droed. Roedd yn rhaid i mi rwygo popeth ro’n i’n ei wybod am bêl-droed, ei roi yn y bin a dechrau o’r dechrau. Y pethau wnes i eu dysgu’r adeg honno sydd wedi fy ngwneud i’r chwaraewr ydw i heddiw.”

“America oedd y nod yn y pen draw,” ychwanegodd Fishlock wrth adlewyrchu ar ei gyrfa. “Pan o’n i’n tyfu i fyny, dyna be oedd pawb yn siarad amdano o ran chwarae pêl-droed ar y lefel uchaf. Dyna oedd y freuddwyd.” Ers hynny, mae Fishlock wedi chwarae pêl-droed proffesiynol ar hyd a lled y byd, gan gynrychioli clybiau yn Lloegr, Awstralia, Ffrainc, America, yr Alban a’r Almaen. Er bod ei gyrfa broffesiynol wedi mynd â hi i dri chyfandir gwahanol, mae hi wedi parhau yn driw i’w gwlad, a hi oedd y cyntaf erioed i ennill 100 o gapiau i Gymru yn 2017. Erbyn hyn, mae hi wedi ymddangos i Gymru fwy na’r un chwaraewr arall, ac mae dal yn benderfynol o gyflawni ei huchelgais rhyngwladol o gymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol twrnamaint mawr.

A hithau’n ysbrydoliaeth i unrhyw chwaraewr ifanc sy’n breuddwydio am lwyddiant yn y gêm broffesiynol, mae Fishlock hefyd yn fodel rôl oddi ar y cae fel llysgennad LGBT, ac enillodd MBE yn 2018 am ei gwasanaethau i bêl-droed ac i’r gymuned LGBT. “Wnes i erioed feddwl am eiliad mai dyma fyddai fy mywyd i,” eglurodd. “Ro’n i’n gwybod mod i eisiau bod yn chwaraewr proffesiynol, a chwarae pêl-droed fel bywoliaeth. Ro’n i’n credu yn fy hun i gyrraedd yno, ond doeddwn i ddim yn gwybod mai dyma fyddai fy mywyd a’r dewisiadau y byddwn i’n eu gwneud.” Mae’r penderfyniad i barhau yn yr Iseldiroedd trwy’r adegau anodd gydag AZ Alkmaar yn tystio i gymeriad Fishlock, ac roedd yn sail i yrfa a arweiniodd at lwyddiant domestig ac Ewropeaidd, wrth iddi sefydlu ei hun fel un o arwyr chwedlonol mwyaf Cymru.

Bydd Jess Fishlock a’i chyd-chwaraewyr yn dechrau eu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA yn erbyn Kazakhstan ar 17eg o Fedi ym Mharc y Scarlets, Llanelli. Mae tocynnau ar werth drwy faw.cymru/tickets.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×