ARWYR Y GWRTHWYNEBWYR

MARTIN REIM

Canolwr talentog a chwaraeodd dros 400 o gemau yn ystod dau gyfnod gyda chlwb FC Flora yn Estonia, ac sydd hefyd â chysylltiad hir â thîm cenedlaethol Estonia.

Yn ogystal â dal y record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau rhyngwladol ar ôl iddo gynrychioli ei wlad 157 o weithiau rhwng 1992 a 2009, mae Reim hefyd wedi rheoli pob grŵp oedran yn ogystal â’r tîm cyntaf yn ystod ei yrfa ddilynol fel hyfforddwr.

Yn ei 157 o ymddangosiadau i Estonia, sgoriodd Reim 14 o goliau, y cyntaf yn erbyn Cymru wrth i’w dîm golli 2-1 mewn gêm gyfeillgar yn Tallinn yn ôl ym mis Mai 1994, ac yntau’n ennill cap rhif 18. Fel pob chwaraewr arall i gynrychioli Estonia, chafodd Reim erioed gystadlu mewn twrnamaint mawr, a does dim llawer o chwaraewyr a fyddai wedi haeddu’r fraint yn fwy na’r dyn o ddinas Tartu, ac yntau wedi gwasanaethu ei wlad yn ffyddlon am ddau ddegawd.

Caiff ei gysylltu â chlwb FC Flora ar ôl chwarae i’r clwb rhwng 1992 a 1999, ac yna dychwelyd am ail gyfnod rhwng 2001 a 2009, a cham naturiol oedd i’w swydd reoli uwch gyntaf fod gyda’r clwb a ddiffiniodd ei yrfa chwarae. Yn ystod ei amser gyda’r clwb o brifddinas Estonia, enillodd Reim saith teitl Meistriliiga a thair cwpan Estonia. Mae hefyd yn dal y record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau yn y brif gynghrair genedlaethol ar ôl chwarae 385 o gemau.

Cafodd ei benodi’n rheolwr yn 2009, ychydig wedi iddo ddod â’i yrfa chwarae i ben, ac fe arweiniodd FC Flora at ddau deitl cynghrair yn olynol, gan roi terfyn ar lwyddiant eu gelynion Levadia, tîm sy’n hanu o’r un ddinas a nhw. Fe wnaethant hefyd ennill y dwbl yn 2011. Ond wedi cyfres wael o ganlyniadau, fe ymddiswyddodd ym mis Hydref 2012, ac aeth ymlaen i ail-gysylltu â’r tîm cenedlaethol wrth iddo gael ei benodi fel rheolwr y timau canolraddol gyda chyfrifoldeb dros y timau Dan 18, Dan 21 a Dan 23. Ym mis Medi 2016, cafodd ei benodi yn rheolwr yr uwch dîm cenedlaethol, ond camodd i lawr dair blynedd yn ddiweddarach ar ôl colled 8-0 drom yn erbyn yr Almaen mewn gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2020. Er mawr syndod, cymerodd Reim yr awenau gyda gelynion FC Flora, Levadia yn 2019, ond byr iawn oedd ei gyfnod yno.

Er iddo fod wrth y llyw ar gyfer y grasfa fwyaf yn hanes y tîm cenedlaethol, mae Reim yn parhau i fod yn arwr gyda chefnogwyr Estonia. Ar ôl chwarae ei gêm gyntaf yng ngêm swyddogol gyntaf Estonia ers iddi ail-ennill ei hannibyniaeth mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Slofenia, eu gêm ryngwladol gyntaf nhw hefyd, byddai Reim yn dirwyn ei yrfa ei ben mewn buddugoliaeth 3-0 yn erbyn Guinea Gyhydeddol mewn gêm deyrnged a drefnwyd i ddathlu ei lwyddiannau.

“Mae hon yn achlysur gorfoleddus,” meddai Reim wrth UEFA.com ar ôl y gêm. “Rydw i’n ymddeol heb unrhyw dristwch. Mae’r cyfnod hiraf yn fy mywyd drosodd ac rydw i’n gallu llongyfarch fy hun ei fod wedi dod i ben yn dda. Does dim pwynt bod yn siomedig, doeddwn i ddim yn mynd i allu chwarae tan i mi farw! Rydw i wedi dewis yr amser cywir. Mae fy nhîm wedi ennill ac mae ymddeol ar ôl buddugoliaeth yn hyfryd iawn. Ennill yw’r flaenoriaeth i bob pêl-droediwr, fel unrhyw seren chwaraeon gwerth ei halen. Dim ond am 30 munud wnes i chwarae, ond roedd hynny’n ddigon. Rydw i’n ddiolchgar i weddill y tîm a chafodd y rheiny a ddaeth i’r stadiwm fwynhau gêm ymosodol yn erbyn gwrthwynebwyr egsotig.”

 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×