RHIFYN CYMRU

PHIL WOOSNAM ARLOESWR PÊL-DROED YR UNOL DALEITHIAU

Hyd yn hyn mae ein herthyglau Cymry alltud wedi canolbwyntio ar chwaraewyr a rheolwyr, ond mae un chwaraewr, a aeth yn weinyddwr, yn cael ei adnabod fel un o’r ffigurau mwyaf dylanwadol yn natblygiad y gêm yn America.

Ganwyd Phil Woosnam ym mhentref Caersws yng nghanolbarth Cymru ym 1932, ac fe ymddangosodd 17 o weithiau i Gymru yn ystod gyrfa broffesiynol a oedd yn cynnwys cyfnodau gyda Leyton Orient, West Ham United ac Aston Villa yn ystod y 1950au a'r 60au. Ond pan fu farw yn 80 oed yn ôl yn 2013, y New York Times a fu’n arwain y teyrngedau, gan ddisgrifio'r cyn-ymosodwr fel arloeswr y byd pêl-droed yn yr Unol Daleithiau.

Cyn iddo symud o'r cae chwarae i'r ystafell gyfarfod, dechreuodd antur Woosnam yn America pan gafodd ei benodi'n chwaraewr-reolwr yr Atlanta Chiefs ym 1966. Yn sgil ei wybodaeth a'i brofiad, ymunodd â thîm cenedlaethol yr UDA ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ond dim ond dechrau’r stori oedd hon, a byddai Woosnam yn mynd ei flaen i fod yn un o’r ffigurau pwysicaf mewn cyfnod lle cafodd rhai o’r ffigurau pêl-droed mwyaf eu denu i’r Unol Daleithiau. Ym 1969, penodwyd y dyn o Gaersws yn gomisiynydd Cynghrair Pêl-droed Gogledd America (NASL), ac mae’r gweddill yn hanes!

Dros y 15 mlynedd nesaf, chwaraeodd ran sylweddol wrth ddenu sêr fel Bobby Moore, Johan Cruyff, George Best, Pele, ac enwau mawr rhyngwladol eraill i UDA. Er nad oeddent i gyd ar anterth eu gyrfaoedd, ymhen dim yr Unol Daleithiau oedd y lle i fod ar gyfer enwogion pêl-droed Ewrop a'r byd, ac roedd eu presenoldeb yn chwyldroadol mewn gwlad a oedd, cyn hynny, wedi gwrthod derbyn na chefnogi’r gamp yn yr un ffordd ag y gwnaeth gweddill y byd.

Cyfunodd Woosnam ei brofiad pêl-droed proffesiynol â’i ben busnes, ac roedd yn barod i wneud penderfyniadau masnachol mawr gan ei fod yn cydnabod y potensial i dyfu’r gêm yn yr Unol Daleithiau mewn cyfnod o sylw teledu a oedd yn ehangu’n gyflym. Sicrhaodd fod cyllid yn ei le i ddenu enwau mwyaf y gêm ryngwladol er mwyn bod ar flaen y gad yn y chwyldro pêl-droed. Er i brosiect NASL ddod i ben ym 1984, parhaodd Woosnam yn ffigwr dylanwadol yng ngwleidyddiaeth pêl-droed yr Unol Daleithiau, ac wedi hynny fe’i penodwyd i rôl farchnata allweddol yn Ffederasiwn Pêl-droed yr Unol Daleithiau (USSF).

Yn ystod y ddegawd ganlynol, chwaraeodd Woosnam ran hanfodol yn yr Unol Daleithiau wrth iddynt gynnal Cwpan y Byd FIFA 1994 yn ogystal â sefydlu Major League Soccer (MLS). Mae ei waddol yn parhau wrth i’r gêm fynd o nerth i nerth, a bydd cyfraniad Woosnam i bêl-droed yr Unol Daleithiau yn ystod y tair degawd hynny yn diffinio hanes y gêm yn y wlad, heb os. Yn y cyfamser, roedd y teyrngedau a wnaed yn dilyn ei farwolaeth ym mis Gorffennaf 2013 yn 80 oed yn tystio i’r parch a oedd tuag ato yn ei wlad fabwysiedig.

“Ym mhob ystyr o’r gair, roedd Phil Woosnam yn arloeswr ym myd pêl-droed yr Unol Daleithiau, ac mae ei gyfraniad i’r gamp yn y wlad hon yn anfesuradwy,” meddai cyn-gomisiynydd NASL, Bill Peterson, am y dyn a gafodd ei gynnwys yn yr US National Soccer Hall of Fame ym 1997. “Torrodd dir newydd gyda phêl-droed yr Unol Daleithiau, a thrwy ei angerdd, cariodd y gêm ar ei ysgwyddau am nifer o flynyddoedd.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×