estonia

Tri Talentog

Maksim Paskotsi

Position Amddiffynnwr

Age 18

Height N/A

Club Tottenham Hotspur (Lloegr)

Maksim Paskotsi

Amddiffynnwr talentog yn ei arddegau a aned ym mhrif ddinas Estonia, Tallinn, ac a ddaeth drwy’r rhengoedd gydag FC Flora. Denodd sylw Tottenham Hotspur gyda’i berfformiadau i’r tîm Dan 21, gan symud i’r clwb ym mis Medi 2020 am ffi na gafodd ei datgelu.

Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf i dîm cyntaf Estonia yn erbyn y Weriniaeth Tsiec mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd ym mis Mawrth eleni, ac mae wedi cadw ei le yn y tîm ers hynny. Roedd yn rhan o dîm Estonia a drechodd Lithwania yn ystod yr haf i godi’r Gwpan Baltig.

Read More

Konstantin Vassiljev

Position Canol Cae

Age 37

Height 173cm

Club Flora (Estonia)

Konstantin Vassiljev

Un o’r ffigurau mwyaf adnabyddus yn nhîm cenedlaethol Estonia, mae Vassiljev wedi cipio teitl Pêl-droediwr y Flwyddyn Estonia dair gwaith yn ystod gyrfa sydd wedi’i weld yn ymddangos i’w glwb a’i wlad 700 o weithiau.

Ar ôl cynrychioli timau Dan 17 a Dan 19 Estonia, chwaraeodd Vassiljev ei gêm gyntaf ar y lefel uchaf ym mis Mai 2006 mewn gêm gyfeillgar 1-1 yn erbyn Seland Newydd, ac enillodd ei 100fed cap i’w wlad ym mis Mawrth 2018. Yn ystod ei yrfa broffesiynol grwydrol, mae Vassiljev wedi chwarae i dimau yn Slofenia, Gwlad Pwyl, Rwsia ac Estonia, gan ennill cynghrair Estonia ddwywaith gyda dau wahanol glwb.

Read More

Henri Anier

Position Blaenwr

Age 30

Height 182cm

Club Paide Linnameeskond (Estonia)

Henri Anier

Anier yw ergydiwr mwyaf cynhyrchiol y tîm cenedlaethol ar hyn o bryd, a phrif sgoriwr Estonia yn 2021 ar ôl sgorio pedair gôl mewn pum gêm cyn y rownd ddiweddaraf o gemau, gan gynnwys yr unig gôl yn y fuddugoliaeth dros Lithiwania yn y Gwpan Baltig ym mis Mehefin.

Ar ôl dod trwy’r rhengoedd yn FC Flora lle cafodd gyfnod ar fenthyg gyda chlwb Sampdoria yn yr Eidal, mae Anier wedi chwarae i glybiau yn yr Alban, Korea, Sweden, yr Iseldiroedd, Norwy, yr Almaen a’r Ffindir, ond dychwelodd i Estonia gyda Paide Linnameeskond yn 2020. Chwaraeodd Anier ei gêm gyntaf i’w wlad ar y lefel uchaf yn 2011 ar ôl ei chynrychioli ar y lefelau Dan 17, Dan 19, Dan 21 a Dan 23, a sgoriodd ei gôl gyntaf ar y lefel hon mewn buddugoliaeth gyfeillgar 2-1 yn erbyn Oman y flwyddyn ganlynol.

Read More
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×