CIPOLWG AR GYMRU

TOSHACK, BALE A’R BERNABEU 

Gall y Santiago Bernabéu fod yn uffern ddidrugaredd os nad yw pethau’n mynd eich ffordd chi. Mae’r Madridistas yn mynnu safonau uchel, ac mae meddylfryd cryf yn nodwedd hanfodol i’r rheiny sy’n rheoli ac yn chwarae i Real Madrid.

Yn hanes y gêm Sbaenaidd, dim ond dau Gymro sydd erioed wedi hawlio’r La Liga, ac fe ddathlodd y ddau eu llwyddiant ym mhrifddinas Sbaen. John Toshack oedd y cyntaf wrth iddo arwain Real Madrid i’r teitl fel rheolwr yn nhymor cofiadwy 1989/90, tra bod Gareth Bale wedi hawlio dau deitl La Liga ers cyrraedd y clwb yn 2013.

Ond mae’r ddau wedi profi’r pwysau a’r gefnogaeth gythryblus a ddaw o gynrychioli un o enwau mwyaf y byd pêl-droed. Fel Ian Rush yn ein herthygl flaenorol, roedd Toshack hefyd yn un o arwyr Lerpwl, ac fe lwyddodd i arwain Real Madrid i’r teitl wrth i’w dîm sgorio cyfanswm anhygoel o 107 o goliau yn ystod yr ymgyrch, gyda’r ergydiwr chwedlonol o Fecsico, Hugo Sánchez, yn canfod cefn y rhwyd 38 o weithiau! Roedd yn dymor diffiniol yn hanes y clwb, ond ddim yn ddigon i Toshack gadw ei swydd wrth i ddechrau digon araf i’r tymor canlynol arwain ato yn ymadael erbyn mis Tachwedd. 

Bron i ddegawd yn ddiweddarach, dychwelodd Toshack am ail gyfnod yn y clwb, ond doedd y Bwrdd ddim yn gwerthfawrogi ei feirniadaeth gyhoeddus o’i chwaraewyr a chafodd ei ddiswyddo am yr ail dro llai na blwyddyn yn ddiweddarach. Er hynny, fe wnaeth Toshack un cyfraniad mawr i ddyfodol y clwb wrth iddo ddyrchafu’r gôl-geidwad ifanc Iker Casillas i’r tîm cyntaf ym 1999. Byddai Casillas, wrth gwrs, yn mwynhau gyrfa hir a llwyddiannus i’w glwb a’i wlad, gan gadarnhau ei le fel arwr chwedlonol yn hanes Real Madrid. 

Symudodd Gareth Bale i Real Madrid o Tottenham Hotspur am ffi enfawr yn 2013, ac mae bellach wedi sgorio dros 100 o goliau i’r Los Blancos. Yn ogystal â hawlio’r La Liga yn 2016/17 ac yn 2019/20, mae llwyddiant Bale yn Sbaen hefyd yn cynnwys pedair medal Cynghrair Pencampwyr a thair Cwpan y Byd Clybiau FIFA. Mae wedi ennill cyfanswm o 13 o dlysau yn ystod ei gyfnod yn Sbaen, a hefyd wedi sgorio mwy o goliau i Gymru nag unrhyw chwaraewr o’i flaen, a hynny fel ffigwr dylanwadol y tu ôl i Gymru yn cyrraedd rowndiau terfynol dau dwrnamaint mawr. 

Ond mae’r cysylltiad rhwng Toshack a Bale yn ymestyn y tu hwnt i’w gyrfaoedd unigol yn y Santiago Bernabéu. Toshack oedd yr un a gyflymodd daith Bale trwy’r timau canolraddol. O’r herwydd, Bale oedd y chwaraewr 'fengaf erioed i chwarae i Gymru yn 16 a 315 diwrnod oed pan ddaeth oddi ar y fainc mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad a Tobago yn Awstria ym mis Mai 2006. Fe gynorthwyodd Robert Earnshaw i sgorio’r gôl fuddugol ac enillodd Cymru 2-1. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, Bale oedd y sgoriwr ‘fengaf erioed i Gymru pan sgoriodd un o’i giciau rhydd nodweddiadol yn erbyn Slofenia yng Nghaerdydd.

Roedd Bale yn un o blith nifer o sêr ifanc a gafodd eu dyrchafu i’r tîm cyntaf cyn eu hamser o dan Toshack, ac er i lwyddiant ddod i’r amlwg yn y pen draw wrth i Gymru gymhwyso ar gyfer Ewro 2016, ni fyddai Toshack yn gweld ei weledigaeth yn dwyn ffrwyth tra’i fod wrth y llyw. Gyda’r diweddar Gary Speed ac yna Chris Coleman yn etifeddu grŵp o chwaraewyr ifanc gyda phrofiad rhyngwladol y tu hwnt i’w hoedran, o leiaf nad oedd gwaith Toshack a rheolwr y timau canolraddol Brian Flynn yn ofer.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×