Gair am ein gwrthwynebwyr

Gemma Fay yr Arwres 200 Cap

Yn ystod ei gyrfa ryngwladol 19 mlynedd, fe ymddangosodd Gemma Fay 203 o weithiau i’r Alban, gyda’i gyrfa yn dod i ben gyda’i thîm yn hawlio’u hunig fuddugoliaeth mewn rowndiau terfynol twrnamaint mawr.

Chwaraeodd i’r tîm cyntaf am y tro cyntaf erioed yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ym 1998, a dim llawer fyddai wedi gallu rhagweld beth fyddai’r ferch ifanc o Perth yn mynd ymlaen i’w gyflawni yn lliwiau ei gwlad. Byddai Fay yn gapten ar yr Alban yn Ewro 2017 Menywod UEFA yn yr Iseldiroedd, gan chwarae ei 200fed gêm yn y gêm ryngwladol baratoadol derfynol cyn y twrnamaint yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

“Roedd gen i ddeigryn bach yn fy llygad wrth feddwl am y gemau a oedd wedi mynd heibio a phawb sydd wedi bod yno i fy helpu i,” meddai Fay wrth BBC Scotland ar ôl y gêm. “Fe wnes i gymryd amser i mi fy hun cyn y gêm er mwyn gwneud yn siŵr mod i’n barod. Dwi’n falch ei bod hi drosodd nawr a’n bod ni’n gallu canolbwyntio ar yr Ewros.” Ond dair gêm yn ddiweddarach yn y twrnamaint, ac roedd gyrfa ryngwladol Fay drosodd. Roedd colli yn erbyn Lloegr a Phortiwgal wedi ei gwneud hi’n ornest gyntaf anodd iawn, ond byddai’r twrnamaint yn dod i ben gyda buddugoliaeth 1-0 dros Sbaen, gyda Fay yn arwain fel capten y tîm.

“Ro’n i’n meddwl bod yr amser yn iawn i roi’r gorau iddi a bod fy siwrne yn gyflawn ar ôl chwarae yn yr Ewros dros yr haf,” meddai Fay wrth wefan Cymdeithas Bêl-droed yr Alban. “Mae bod yn gapten ar fy ngwlad am bron i ddegawd wedi golygu popeth. Dwi wedi rhoi popeth dwi’n gallu dros fy ngwlad ac, wrth i’r tîm symud ymlaen i gyfnod newydd, mae’n bryd pasio’r baton ymlaen i’r genhedlaeth nesaf. Mae hi’n gyfnod llawn cyffro i bêl-droed benywaidd yn yr Alban ac rydw i’n edrych ymlaen at wylio’r tîm yma’n ffynnu.”

Treuliodd Fay y rhan fwyaf o’i gyrfa mewn clybiau yn yr Alban gan gynrychioli Aberdeen, Ayr United, Celtic, Glasgow City yn ogystal â dau gyfnod yn Hibernian. Fe wnaeth hi hefyd chwarae yn Lloegr i Brighton & Hove Albion a Leeds United, cyn dod â’i gyrfa clwb i ben yng Ngwlad yr Iâ gyda Stjarnan. Yn dilyn ei hymddeoliad, mae Fay wedi mynd a’i gwybodaeth gynhwysfawr am chwaraeon i Undeb Rygbi’r Alban, gan ddod yn bennaeth gêm y merched a’r menywod yn ei gwlad.

“Pan oeddwn i’n blentyn, pe baech chi wedi dweud wrtha' i un tro y byddwn i’n chwarae dros fy ngwlad, mi fuaswn i wedi bod ar ben fy nigon, mae gwneud hynny ar 203 achlysur yn anhygoel,” ychwanegodd. “Mae’n anodd disgrifio cymaint y mae wedi ei olygu i mi i chwarae dros fy ngwlad. Mae wedi fy helpu i siapio’r person ro’n i eisiau bod.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×