Gair am Gymru

Gemma Grainger yn bwrw golwg ymlaen at yr ornest yn erbyn yr Alban

Siaradodd Gemma Grainger â’r wasg fis diwethaf wrth iddi baratoi ar gyfer ei hail wersyll fel rheolwr Cymru gyda’r gêm ryngwladol gyfeillgar hon yn erbyn yr Alban.

Yn ôl ym mis Ebrill, cafodd y tîm eu trechu gan Ganada ac fe wnaethant hefyd hawlio gêm gyfartal drawiadol y erbyn Denmarc yng Nghaerdydd, a bydd Grainger yn disgwyl gweld arwyddion pellach o gynnydd gan ei charfan wrth i’r ymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd Menywod FIFA 2023 ddynesu.

“Mae’r Alban yn dîm arall sydd wedi’u graddio’n uchel ac mi oedd hynny’n rhan o’r cynllun,” eglurodd Grainger. “I ni, rydyn ni’n edrych ymlaen at gael ein profi ganddyn nhw. Fel cenedl, dwi’n gwybod lot amdanyn nhw ac mae’r chwaraewyr yn gwybod lot amdanyn nhw hefyd gan eu bod nhw’n chwarae yn erbyn llawer o’r tîm o un wythnos i’r llall. Fell mae’n mynd i fod yn brawf gwych i ni mewn sawl ffordd, ond dwi’n meddwl o ran ein meddylfryd a’n paratoadau, mae tîm sydd wedi’i raddio’n uwch wir yn gosod y tôn o ran be ‘da ni’n ceisio ei gyflawni wrth i ni fynd mewn i’r gwersyll.

“Mae’n gydbwysedd o ddysgu rhagor am y chwaraewyr ond hefyd dysgu rhagor am y tîm a pha mor gryf y gallwn ni fod o ran perfformiad. Fe ddechreuon ni edrych ym mis Ebrill ar sut ydym ni eisiau perfformio, gan ein bod ni’n gwybod os ydyn ni’n perfformio, bydd y canlyniadau’n dod. ‘Da ni’n canolbwyntio ar adeiladu ar y perfformiad yn erbyn Denmarc, yn arbennig gan mai honno oedd y gêm ddiwethaf, ac fel yna mae angen i ni feddwl yn erbyn yr Alban. Byddwn ni’n canolbwyntio ar ein hunain, a sut y gallwn ni fod yn well na beth oedden ni yn y gwersyll diwethaf.

“Dwi’n gyffrous iawn am y gêm, gan eu bod nhw’n mynd i'n herio ni'n galed, a dyna beth sydd ei angen arnom ni, mi fyddan nhw’n ein profi ni mewn ffordd wahanol. Mae pob gwersyll yn gyfle ac rydyn ni wedi gosod ein hamcanion. O ran gêm yr Alban, mae’n gyfle arall i weld lle ydyn ni ar hyn o bryd.

“Un peth dwi’n gwybod sydd ddim ar ein hochr ni yw amser, mae gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn dod fis Medi. Mae pob chwaraewr yn bwysig, a bydd sut maen nhw’n cystadlu i fod yn rhan o dîm yn allweddol yn y gwersyll yma. Ein meddylfryd yw cystadlu ac ennill. Wrth chwarae yn erbyn tîm sydd wedi’i raddio’n uwch, rydych chi bob tro’n dysgu rhywbeth amdanoch chi’ch hun, p’un a yw hynny ar y cae neu oddi arno, felly mae angen i ni edrych ar beth allwn ni ei ddysgu, a dyma beth yw pwrpas y gêm yma.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×