YR ALBAN
Er iddo gael ei eni yn Glasgow, treuliodd rheolwr dros dro presennol yr Alban, Stuart McLaren, y rhan fwyaf o’i yrfa chwarae yn Awstralia yn cynrychioli Wollongong Wolves, Brisbane Strikers, Queensland Roar a Perth Glory naill ochr i gyfnodau yn yr Alban gyda Stirling Albion a Hamilton Academical, ac fe chwaraeodd hefyd i Dîm Dan 20 Awstralia.
Dechreuodd ei yrfa hyfforddi yn Awstralia gyda Brisbane Strikers a gweithiodd fel cynorthwyydd yn North Queensland Fury cyn dychwelyd i Brydain yn 2011 i hyfforddi tîm Prifysgol Loughborough. Yn 2014, cafodd ei benodi fel rheolwr Stirling Albion ac arhosodd yn y clwb am y ddwy flynedd nesaf. Yn 2018, daeth McLaren yn rheolwr ar dîm Dan 16 yr Alban, a chymerodd yr awenau fel rheolwr dros dro tîm cenedlaethol y menywod ddechrau’r flwyddyn ddilynol yn dilyn ymadawiad Shelley Kerr.