Bwrw golwg ar Gymru

Pennod newydd i Loren Dykes

Cadarnhaodd Gemma Grainger ei staff ’stafell gefn fis diwethaf, gydag un enw cyfarwydd iawn ymhlith y penodiadau wrth i gyn-amddiffynwraig Cymru, Loren Dykes, ddechrau ar bennod nesaf ei thaith bêl-droed fel cynorthwyydd Grainger.

Bydd Dykes hefyd yn cymryd yr awenau gyda thîm Dan 17 Cymru, a’r rhaglen perfformiad carfan, a bydd ei phrofiad i’w chlwb a’i gwlad yn ysbrydoliaeth werthfawr i’r genhedlaeth nesaf.

“Mae Loren yn dod â chymaint fel hyfforddwr a hithau’n gyn-chwaraewr,” eglurodd Grainger. “Mae ei phrofiad yn dweud y cyfan, ond o weithio gyda Loren ym mis Ebrill, mae rhai o’r cryfderau sydd ganddi, ro’n i’n teimlo eu bod nhw ar goll o’n tîm staff. Ei phrofiad, ei gwybodaeth am y tîm, felly pan wnes i dynnu tîm staff at ei gilydd, un o’r blaenoriaethau i mi oedd cynnwys amrywiaeth o ran cael gwahanol bobl gyda gwahanol gryfderau. Mae Loren yn cynnig rhywbeth mor unigryw o ran pwy ydy hi fel person, ei phrofiadau a’i chryfderau hyfforddi hefyd. Y ffordd rydym ni’n gweithio gyda’n gilydd, os ydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, dwi’n gwybod y gallwn ni ddod â’r gorau allan yn ein gilydd.”

Gan chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf ar y lefel uchaf yn erbyn yr Iseldiroedd yn 2007, mae Dykes wedi bod yn rhan annatod o’r tîm cenedlaethol ers hynny, a hi oedd yr ail chwaraewraig yn unig i ennill 100 o gapia i Gymru, tu ôl i Jess Fishlock, pan chwaraeodd ei 100fed gêm ryngwladol ym mis Ebrill 2019. Gan ymddeol o bêl-droed ar 105 o gapiau yn gynharach eleni, mae Dykes wedi bod yn canolbwyntio’n llawn ar y cam nesaf yn ei gyrfa, ac wedi bod yn ymwneud â thimau canolraddol y menywod cyn ei phenodiad diweddaraf.

A hithau’n ddisgybl yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe, dechreuodd Dykes chwarae pêl-droed i’r tîm lleol, Tref Pontardawe, cyn cynrychioli Llanelli Reds, UWIC (Met Caerdydd erbyn hyn) a Dinas Caerdydd. Yn ystod ei hamser yn y Brifysgol fe wnaeth hi hefyd gynrychioli tîm Prifysgolion Cymru. Daeth ei throsglwyddiad mwyaf ar lefel clwb yn nhymor 2008/2009 pan ymunodd â Bristol Academy. Mae hi wedi chwarae yn rownd derfynol Cwpan yr FA yn Lloegr ddwywaith ac wedi chwarae yng Nghynghrair Pencampwyr UEFA yn ystod ei gyrfa, yn ogystal â’i llwyddiannau ar lefel ryngwladol ac ennill MBE yn 2019.

“Rydych chi angen ychydig o lwc a llawer o waith caled,” eglurodd Dykes wrth FAW.cymru yn ôl yn 2018. “Rydw i wedi bod yn lwcus iawn i fod o dan hyfforddwyr da ac rydw i wedi bod yn lwcus o ran anafiadau. Rydw i wedi gweithio’n galed ac wedi bod yn benderfynol o oresgyn rhwystrau a phrofi i bobl mod i’n gallu gwneud hyn. Nid dim ond gallu sy’n cyfri. Rydw i wedi bod o gwmpas am amser hir, ond mae arna i hynny i lawer o bobl.”

Yn ymuno â Loren Dykes fel staff mae Richard Thomas (hyfforddwr cynorthwyol), Jen Herst (hyfforddwr gôl-geidwaid) a Luke Taylor (pennaeth perfformiad corfforol).

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×