GÊM DDOMESTIG CYMRU

AIL-STRWYTHURO GÊM Y MENYWOD

Hawliodd Menywod Dinas Abertawe deitl Uwch Gynghrair Menywod Cymru Orchard fis diwethaf mewn gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Menywod y Fenni ar ddiwrnod olaf y tymor, gan eu rhoi ar y blaen o drwch blewyn i Met Caerdydd.

Bydd yr Elyrch nawr yn cystadlu yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA y tymor nesaf, ac mae'n dymor sy’n nodi dechrau cyfnod newydd i'r gêm ddomestig i fenywod wrth i Haenau 1 a 2 gael eu hailstrwythuro.

Rhoddwyd yr ailstrwythuro ar waith yn dilyn adolygiad llawn o'r pyramid yn 2020, a oedd yn cynnwys cyfnod o ymgynghori â chlybiau, chwaraewyr, cynghreiriau a swyddogion ar bob lefel. Mae’r canlyniadau wedi amlygu’r newidiadau sy’n angenrheidiol yn nwy haen uchaf y pyramid, yn ogystal â thynnu sylw at y bwlch sylweddol rhwng timau dan 16 a phêl-droed uwch. Mae strwythur y pyramid newydd yn cynnwys wyth tîm yn Haen 1, cynghrair Haen 2 ranbarthol newydd yn y gogledd a'r de, yn ogystal ag wyth ym mhob cynghrair a chynghrair dan 19 newydd yng ngogledd a de Cymru.

Er mwyn penderfynu pa glybiau a fydd yn chwarae yn y cynghreiriau newydd hyn, cynhaliodd CBDC broses ymgeisio agored a oedd yn cynnwys dau gam. Y cam cyntaf oedd dyfarnu trwydded gychwynnol, a gofynnwyd i glybiau ddarparu tystiolaeth eu bod yn cwrdd â'r meini prawf gofynnol ar gyfer pob lefel. “Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth gweld yr ymdrech mae’r clybiau wedi ei roi i mewn i’w cais,” esboniodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Menywod CBDC. “Rydyn ni wedi gweld newid go iawn ym meddylfryd y clybiau o ran sut maen nhw'n datblygu amgylchedd elitaidd ar gyfer y chwaraewyr, a sut maen nhw'n adeiladu tuag at ddyfodol cynaliadwy.

“Trwy roi proses ymgeisio agored ar waith ar gyfer mynediad i’r cynghreiriau newydd, caiff timau eu gwobrwyo nid yn unig am eu gallu i chwarae pêl-droed, ond am eu strwythurau clwb cadarn yn ogystal. Mae wedi annog clybiau i adolygu eu strwythur cyfan, eu llwybrau chwarae a'r ddarpariaeth sydd ar gael i chwaraewyr. O ganlyniad, bydd pob clwb yn gwneud ymdrech ar y cyd i wella safonau mewn amgylchedd cystadleuol.”

Ychwanegodd Andrew Howard, Pennaeth Cystadlaethau CBDC: “Trwy gydol y broses hon, rydym ni wedi gweld clybiau yn sicrhau buddsoddiad sylweddol yn eu rhaglenni ar gyfer menywod yn ogystal ag ymrwymiad cryf o ran adnoddau sydd ar gael yn y clybiau, o benodi staff llawn amser i gytundebau partneriaeth tymor hir. Dylai clybiau ymfalchïo yn yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni oddi ar y cae dros y flwyddyn ddiwethaf ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y bennod newydd gyffrous hon mewn pêl-droed ddomestig i fenywod Cymru.” 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×