Gair am ein gwrthwynebwyr

Yr Alban yn creu hanes yn Ewro 2017

Roedd yr Alban yn un o bum gwlad yn Ewro 2017 Menywod UEFA a oedd yn ymddangos am y tro cyntaf erioed.

O dan arweiniad eu rheolwr Anna Signeul o Sweden, cafodd y tîm ymgyrch ragbrofol eithriadol a ddaeth â saith buddugoliaeth o wyth gêm i ddod yn ail i Wlad yr Iâ. Ond daeth y twrnamaint â chyfnod 12 mlynedd Signeul fel y rheolwr cenedlaethol i ben, ac er na aeth ei thîm ymhellach na’r gemau grŵp, roedd hi’n deilwng gweld ei gwasanaeth yn dod i ben gyda buddugoliaeth yn yr olaf o’u gemau yn y twrnamaint.

Sgoriodd Jane Ross a Kim Little 15 o goliau rhyngddyn nhw yn yr ymgyrch ragbrofol, ond collodd Little y rowndiau terfynol oherwydd anaf difrifol i’w phen-glin. Roedd hi’n ergyd drom i’r Alban, yn arbennig o ystyried y frwydr frawychus ar y gorwel gyda Lloegr yn y gêm agoriadol yn Utrecht. Gyda’r Cymro, Mark Sampson, wrth y llyw ar y pryd, roedd Lloegr yn teithio i’r Iseldiroedd fel un o’r ffefrynnau ar ôl dod yn drydydd yng Nghwpan y Byd Menywod FIFA 2015, ac yn wir profodd y tîm i fod yn llawer rhy gryf i’r Alban wrth i hatric gan Jodie Taylor fachu’r penawdau mewn buddugoliaeth 6-0.

Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, teithiodd yr Alban i Rotterdam i herio Portiwgal yn eu hail gêm grŵp, ond aeth y tîm ar ei hôl hi eto, gyda Carolina Mendes yn agor y sgorio ar ôl 27 munud. Ond, byddai’r Alban yn dathlu eu gôl gyntaf mewn rowndiau terfynol twrnamaint mawr pan unionodd Erin Cuthbert y sgôr hanner ffordd drwy’r ail hanner. Ond buan iawn aeth Portiwgal ar y blaen eto pan sgoriodd yr eilydd Ana Leite y gôl dyngedfennol ychydig funudau’n unig ar ôl dod oddi ar y fainc.

Digwyddodd y drydedd a’r olaf o gemau’r Alban yn erbyn Sbaen yn Deventer, a Caroline Weir a fyddai’n creu hanes wrth i’w gôl ychydig cyn hanner amser wahanu’r ddwy ochr drwy gydol y gêm ac wrth i’r Alban hawlio eu buddugoliaeth gyntaf mewn twrnamaint mawr. Cafodd Weir ei henwi fel chwaraewraig y gêm, a chafodd Signeul ddod â’i chyfnod gyda’r tîm cenedlaethol i ben ar uchafbwynt.

“Roedd perfformiad y chwaraewyr yn arbennig a phob un yn chwarae o’r galon,” meddai Signeul wrth BBC Scotland ar ôl y gêm. “Rydw i mor falch ohonyn nhw i gyd. Dydyn ni ddim yn haeddu mynd adref. Mae gennym ni chwaraewyr hollol anhygoel yn y tîm ac mae’n gymaint o siom nad ydyn nhw wedi cael dangos hynny o’r blaen. Ar ôl y ddwy gêm gyntaf, os nad oedd pobl yn meddwl bod yr Alban yn ddigon da, yna heno mi fyddant yn gwybod sut dîm ydym ni. Rydym ni’n llawn ysbryd, ond rydym ni hefyd yn chwarae pêl-droed o safon, mae gennym ni dechneg dda ac fe wnaethon ni ymdopi yn gorfforol hefyd. Rydw i yn hollol sicr y bydd y tîm yma yn mynd ymlaen ac yn cyrraedd y Cwpan y Byd nesaf. A gobeithio ein bod ni wedi ennill cefnogwyr newydd gan fod hyn yn bwysig i’r dyfodol.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×