YR ALBAN

Y dair dalentog

Rachel Corsie

Position Amddiffynwraig

Age 31

Height 175cm

Club Kansas City (UDA)

Rachel Corsie

Capten profiadol y tîm sydd wedi ymddangos i’w gwlad dros 120 o weithiau ac wedi chwarae i glybiau yn yr Alban, Lloegr, Awstralia a’r Unol Daleithiau. Mae hi wedi bod yn rhan bwysig o garfan yr Alban ers ei gêm gyntaf yn erbyn Ffrainc yng Nghwpan Cyprus yn ôl yn 2009, ac enillodd ei 100fed cap rhyngwladol yn erbyn Gwlad Pwyl ym mis Mehefin 2018.

A hithau’n bresenoldeb dylanwadol yn y cefn, mae Corsie hefyd yn llwyddo o flaen y gôl i’w gwlad, ac enillodd nifer o wobrau domestig yn ystod ei chyfnod gyda Glasgow City.

Read More

Caroline Weir

Position Canol Cae

Age 25

Height 173cm

Club Manchester City (Lloegr)

Caroline Weir

Pêl-droedwraig dalentog yng nghanol y cae a ddechreuodd ei gyrfa yn yr Alban gyda Hibernian cyn symud i Arsenal yn 2013.

Symudodd i Bristol Academy a Lerpwl yn dilyn hynny cyn iddi ymuno â’i chlwb presennol, Manchester City yn 2018 lle mae hi wedi sefydlu ei hun fel ffigwr pwysig yn y garfan. Cafodd ei gôl yn erbyn Manchester United ym mis Medi 2019 ei enwebu am wobr Puskas FIFA ac mae hi wedi ei henwi yng ngharfan Tîm GB ar gyfer y gemau Olympaidd. Ar ôl cynrychioli’r Alban ar lefelau Dan 15, Dan 17 a Dan 19, chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf i’r tîm cyntaf ym mis Mehefin 2013.

Read More

Claire Emslie

Position Blaenwr

Age 27

Height 170cm

Club Everton (Lloegr)

Claire Emslie

Y fenyw gyntaf i sgorio i’r Alban yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd, fe wnaeth ergydwraig Everton yn siŵr o’i lle mewn hanes yn 2019 gyda’i gôl yn erbyn Lloegr.

Ymunodd â Bristol City ac yna Manchester City ar ôl dechrau ei gyrfa gyda Hibernian, ac fe dreuliodd amser yn Awstralia ar fenthyg gyda Melbourne City ar ôl ymuno ag Orlando Pride yn 2019. Symudodd i Everton ar fenthyg cyn ymuno’n barhaol y llynedd. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r Alban yn erbyn Gwlad yr Iâ yn 2013 ar ôl datblygu drwy’r timau canolraddol.

Read More
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×